English icon English

Llywodraeth Cymru yn cynllunio gostyngiad mawr mewn allyriadau o drafnidiaeth wrth gyhoeddi cynllun newydd 20 mlynedd

Welsh Government plans major reduction in transport emissions as new 20 year plan is published

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Drafnidiaeth ddrafft newydd heddiw yn addo gostyngiad mawr mewn allyriadau carbon o’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru. 

Mae trafnidiaeth yn gyfrifol ar hyn o bryd am 17% o allyriadau carbon Cymru ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bennu blaenoriaethau newydd ac ymestynnol dros bum mlynedd i fynd i’r afael ag allyriadau carbon wrth iddi geisio cyrraedd ei thargedau datgarboneiddio. 

Cafodd y strategaeth ddrafft, ‘Llwybr Newyd – New Path’ ei lansio ddydd Mawrth a bydd yn llunio system drafnidiaeth Cymru dros y ddwy ddegawd nesaf.  Mae yn pennu ystod o uchelgeisiau newydd i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys hierarchiaeth drafnidiaeth gynaliadwy newydd fydd yn helpu i lywio buddsoddiadau tuag at opsiynau trafnidiaeth gwyrddach. 

Dywedodd y Gweinidog Ken Skates ei fod yn gyfnod sy’n dod ‘unwaith mewn oes’ i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ganolog i ddyfodol Cymru.   

Wedi’i gyhoeddi wrth i’r pandemig barhau i gael effaith ar fywydau pob dydd, mae’r strategaeth yn cydnabod bod patrymau o lai o gymudo a mwy o weithio gartref yn debygol o barhau. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu ei uchelgais hirdymor i 30% o’r gweithlu weithio o gartref neu o bell, wedi’i gyflawni drwy roi mwy o ddewis i bobl ynghylch sut a ble y gallant weithio.  Mae’r strategaeth yn cydnabod y gall mwy o wasanaethau lleol a mwy o deithio llesol olygu bod llai o bobl yn gorfod defnyddio eu ceir bob dydd. 

Mae ‘Llwybr Newydd’ yn gosod pedwar o uchelgeisiau hirdymor ar gyfer y system drafnidiaeth yng Nghymru, wedi’u pennu drwy gyfres o flaenoriaethau pum mlynedd.  Mae hefyd yn pennu naw o ‘gynlluniau bychain’ ar gyfer cyflawni o fewn dulliau a sectorau allweddol: teithio llesol; rheilffyrdd; bysiau; ffyrdd, (gan gynnwys strydoedd a pharcio; y trydydd sector; tacsis a cherbydau hurio preifat; cludiant a logisteg; a phorthladdoedd, trafnidiaeth forol a hedfanaeth). 

Lansiwyd ymgynhgoriad i bobl gael dweud eu dweud ar eu cynlluniau, sy’n rhedeg tan 25ain Ionawr 2021. 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: 

“Mae ein system drafnidiaeth yn un o’r asedau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym.  Mae’n cysylltu pobl â’i gilydd, yn clymu cymunedau ac yn galluogi busnesau i ddatblygu ac ehangu.  Mae’n un o’r dulliau mwyaf pwerus ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol a thwf cynhwysol sydd gennym. 

“Ond yn 2020 rydym mewn cyfnod pwysig yn ei ddatblygiad.  Mae’r argyfwng hinsawdd, mae technoleg newydd yn tarfu ar y ffordd yr ydym yn meddwl am drafnidiaeth ei hun, ac mae’r  Coronafeirws yn tarfu’n ddifrifol ar sylfeini ariannol ac economaidd ein modelau trafnidaieth cyhoeddus. 

Mae ein strategaeth newydd - Llwybr Newydd – yn pennu ymrwymiad I leihau allyriadau trafnidiaeth ar raddfa fawr fel y gall pob un ohonom chwarae rhan I fynd I’r afael â’r sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu.  Mae’n dangos sut fydd hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn ganolog i’n gwaith, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig sy’n newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn byw, gweithio a chwarae.   

“Mae’r symudiad tuag at system drafnidiaeth wyrddach eisoes ar droed, gyda mwy o fuddsoddiad nag erioed mewn teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.  Mae Llwybr Newydd yn gyfle unwaith mewn oes i gadarnhau a chyflymu’r gwaith hwnnw fel y gallwn sicrhau bod ein system drafnidiaeth yng Nghymru yn wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Rydym wedi cyrraedd y pwynt ble mai teithio mewn car yw’r ffordd hawsaf i deithio i’r rhan fwyaf o bobl.  Os ydym i lwyddo i fynd i’r afael â newid hinsawdd mae’n rhaid i hynny newid, ond mae’n mynd i olygu ymdrech fawr i annog pobl i ystyried dewisiadau eraill.  Byddwn ond  yn llwyddo i berswadio pobl i newid eu harferion os ydym yn cynnig dulliau mwy atyniadol eraill o deithio.  A dyna’r dasg y mae ein strategaeth drafnidiaeth newydd wedi’i gosod iddi ei hun.”