English icon English
welsh flag-3

Y Prif Weinidog yn amlinellu cynlluniau i gynnal etholiadau ‘diogel o ran Covid’ ar gyfer y Senedd

First Minister sets out plans to hold ‘Covid secure’ 2021 Senedd elections

Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau y gall pobl Cymru bleidleisio'n ddiogel yn etholiadau'r Senedd yn 2021, a bod yr etholiadau’n cael eu cynnal yn ôl y bwriad ar 6 Mai 2021.

Byddai etholiadau’r Senedd yn 2021 wedi bod yn rhai hanesyddol beth bynnag – dyma’r etholiadau cyntaf i’w cynnal dan gyfreithiau a wnaed yng Nghymru, ac am y tro cyntaf bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed, yn ogystal â dinasyddion tramor sy’n gymwys, yn cael yr hawl ddemocrataidd i bleidleisio.

Ond mae pandemig y coronafeirws wedi creu heriau sylweddol o ran sicrhau diogelwch ac uniondeb yr etholiad.

Sefydlodd y Prif Weinidog y Grŵp Cynllunio Etholiadau ym mis Mehefin i ystyried effaith y coronafeirws ac, yn benodol, pa addasiadau deddfwriaethol y gallai fod angen eu gwneud o ganlyniad.

Mae'r grŵp wedi cytuno ar nifer o fesurau i wella hyblygrwydd a chadernid y gweithrediadau etholiadol, gan adlewyrchu cyngor iechyd cyhoeddus ar y ffordd orau o sicrhau diogelwch a lles pawb sy’n cymryd rhan.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mesurau i annog pleidleiswyr sy'n agored i niwed ac eraill i ystyried gwneud cais am bleidlais bost ac i wneud cais yn gynnar os oes modd;
  • Rhoi mwy o hyblygrwydd o ran enwebu ymgeiswyr, yn ogystal ag o ran pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy;
  • Mesurau i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif yn gweithredu’n ddiogel. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y mae'n briodol ei wneud i helpu Swyddogion Canlyniadau i wneud y trefniadau angenrheidiol;
  • Sicrhau nad yw rheoliadau’r coronafeirws yn llesteirio’r pleidleisio.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynlluniau wrth gefn hefyd, rhag ofn y bydd  pandemig y coronafeirws yn fygythiad mor ddifrifol i iechyd y cyhoedd fel na fydd hi’n ddiogel cynnal yr etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Mae paratoadau ar y gweill i greu Bil drafft a fydd yn galluogi Llywydd y Senedd i ohirio'r etholiad am hyd at chwe mis os bydd angen. Byddai hynny’n galluogi’r Gweinidogion i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ofynnol gerbron y Senedd ym mis Ionawr, pe bai’r sefyllfa ar ôl y Nadolig yn awgrymu bod hynny’n debygol o fod yn angenrheidiol fel dewis olaf. 

Wrth annerch y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i nodi unwaith eto mai bwriad pendant y Llywodraeth yw y dylid cynnal etholiad y Senedd ar 6 Mai y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael pleidleisio pan fydd yr etholiad yn cael ei gynnal.

“Rwy’n credu bod rhaid inni edrych ar bob opsiwn er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio’u hawl ddemocrataidd yn wyneb y coronafeirws.

“Mae bwriad i gynnal llawer o waith cyfathrebu i annog pobl i bleidleisio drwy'r post, ac i bwysleisio y bydd gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel o ran Covid.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Hoffwn ddiolch eto i aelodau'r Grŵp Cynllunio Etholiadau am eu gwaith yn ein helpu i baratoi ar gyfer etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn hynod, ac mae hon wedi bod yn Bumed Senedd hynod. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd nawr i sicrhau bod pobl Cymru, gan gynnwys y rhai sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio, yn cael defnyddio’u hawl ddemocrataidd yn ddiogel.”