Ailddechrau cyhoeddi data perfformiad GIG Cymru – ymateb y Gweinidog
Minister reacts to publication of NHS Wales performance data restarting
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething am ailddechrau cyhoeddi data perfformiad GIG Cymru
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: “Ym mis Mawrth, gofynnais i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ohirio pob gweithdrefn ac apwyntiad rheolaidd fel y gallai ganolbwyntio ar yr ymateb i don gyntaf pandemig y coronafeirws.
“Yn raddol, mae’r GIG wedi bod yn darparu mwy o ofal rheolaidd ond mae’r coronafeirws wedi effeithio ar bob agwedd ar ofal iechyd ac mae ein hysbytai wedi gorfod gweddnewid eu ffordd o weithio er mwyn diogelu staff a phobl ac atal lledaeniad y feirws. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar gapasiti, gweithgarwch ac amseroedd aros.
“Heddiw, rydym yn ailddechrau cyhoeddi ein data arferol ar gyfer mesur perfformiad y GIG. Fel y disgwyl, mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn amseroedd aros ar gyfer triniaeth ddewisol. O ganlyniad i gyfyngiadau newydd o ran cadw pellter cymdeithasol, mesurau llym i reoli haint a mesurau eraill i ddiogelu pobl, ni all y GIG ond cyflawni tua hanner nifer y gweithdrefnau bob dydd, o’i gymharu â’r nifer cyn y pandemig.
“Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod yr amser ychwanegol y mae’n ei gymryd i barafeddygon wisgo’r cyfarpar diogelu personol (PPE) gofynnol, yn ogystal â’r angen i lanhau cerbydau’n drylwyr ar ôl bod ar alwad, wedi effeithio ar ei amseroedd ymateb.
“Yng nghyfnod cyntaf y cyfyngiadau symud, bu gostyngiad yn nifer y cleifion mewn Adrannau Argyfwng, ond bellach mae’r galw wedi dechrau dychwelyd at lefelau arferol ac mae’r Adrannau’n gweithredu gyda llai o gapasiti oherwydd gofynion rheoli haint a chadw pellter cymdeithasol.
“Rydym yn disgwyl gaeaf heriol eleni felly rydym wedi darparu £30m o gyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal brys ac argyfwng a chynyddu cadernid ar gyfer gweddill 2020/21.
“Mae gan bob un o’n byrddau iechyd nawr gynlluniau i weithredu o dan yr amgylchiadau newydd hyn a gweld cleifion yn ôl blaenoriaeth glinigol, ond bydd yn cymryd amser hir i ddychwelyd i’r sefyllfa yr oeddem ynddi cyn y pandemig. Bydd hynny'n gofyn am adnoddau sylweddol yn ychwanegol at yr arian presennol i ymateb i'r pandemig anorffenedig”
Nodiadau i olygyddion
Mae'r data are gael yma https://llyw.cymru/crynodeb-perfformiad-gweithgaredd-y-gig-medi-hydref-2020-cyhoeddiad