Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 253 o 320
Rheoliadau newydd i atal achosion o droi allan y Nadolig hwn
Daeth cadarnhad gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y bydd deddfwriaeth frys yn rhan o ymdrechion i ddiogelu iechyd cyhoeddus ac amddiffyn pobl sy’n rhentu y Nadolig hwn,.
Y Gronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol i warchod dros 470 o swyddi ym musnesau Abertawe
Mae Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru wedi helpu i warchod dros 470 o swyddi mewn dau o fusnesau Abertawe rhag effeithiau economaidd y coronafeirws.
Newidiadau pwysig i reolau rhoi gwaed
Mae Cymru wedi cymryd penderfyniad pwysig i godi’r cyfyngiadau sy’n atal Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT+) rhag rhoi gwaed.
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer profion cyfresol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno profion cyfresol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen.
Annog pobl Cymru i ddal ati gydag ymdrech ailgylchu WYCH y Nadolig hwn i helpu Cymru i gyrraedd rhif un
- Arwyddion cynnar yn dangos cynnydd mewn ailgylchu yn ystod y cyfnod clo – gwnaethom ailgylchu 21% yn fwy o wastraff bwyd na’r adeg hon y llynedd
- 55% ohonom yn ailgylchu mwy nag y gwnaethom y llynedd
- Athletwr eithafol a chogydd Matt Pritchard yn cefnogi’r ymgyrch i ailgylchu mwy o fwyd gyda fideo sy’n cynnwys rysáit Nadolig unigryw
Canolfan wybodaeth a chyngor yn agor i helpu cludwyr ar ddiwedd y cyfnod pontio o’r Undeb Ewropeaidd
Heddiw, mae canolfan wybodaeth a chyngor newydd ar gyfer cludo nwyddau i'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwedd y cyfnod pontio o’r Undeb Ewropeaidd wedi agor yng ngwasanaethau Pont Abraham yn Sir Gaerfyrddin, yn gwasanaethu cludwyr ar gyfer Abergwaun a Doc Penfro.
Cyhoeddi cynllun rheoli COVID-19 wedi’i ddiweddaru
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun rheoli COVID-19 ar gyfer Cymru yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.
£31m o gyllid hanfodol yn cael ei sicrhau gan y Gweinidog Cyllid i wneud gwaith atgyweirio yn dilyn llifogydd
Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi dweud ei bod wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU ar gyllid gwerth £31m i gefnogi gwaith atgyweirio hanfodol yn dilyn llifogydd yng Nghymru.
Ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' [copy]
Bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen fel rhan o 'ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws' cadarnhaodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw.
Y Gwiriwr Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn mynd yn fyw
Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Adroddiad newydd ar integreiddio dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol
Bob blwyddyn ar 10 Rhagfyr, mae Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn dathlu'r diwrnod y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021.