Etholiadau mis Mai 2021 – Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban
Elections May 2021 - Joint statement from the Welsh Government, UK Government and Scottish Government
Mae etholiadau diogel yn hanfodol i'n democratiaeth. Nawr, yn fwy nag erioed, mae gan bleidleiswyr yr hawl i gael eu clywed, a bwriedir cynnal etholiadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar 6 Mai 2021.
Mae etholiadau wedi cael eu cynnal yn llwyddiannus mewn gwledydd ledled y byd er gwaethaf pandemig y coronafeirws. Cynhaliwyd deg is-etholiad cyngor yn yr Alban ac mae etholiadau cenedlaethol wedi mynd rhagddynt mewn llawer o wledydd gan gynnwys Iwerddon, Ffrainc, yr Eidal, Portiwgal, Israel, De Korea a'r Unol Daleithiau. Disgwylir i ragor o etholiadau gael eu cynnal ar draws y byd rhwng mis Mawrth a mis Mai.
Yn y DU, mae’r amrediad eang o etholiadau sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer mis Mai yn cynnwys etholiadau cynghorau, i ddewis Maer, Cynulliad Llundain, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a refferenda lleol yn Lloegr, etholiad Senedd yr Alban yn yr Alban, ac etholiad y Senedd, ac is-etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a ohiriwyd yng Nghymru. Cyn bo hir, bydd pleidleiswyr yn dechrau derbyn eu cardiau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau hyn a hoffem roi sicrwydd iddynt o'r paratoadau helaeth sy'n cael eu gwneud i ganiatáu i'r bleidlais gael ei chynnal ym mhob achos mewn ffordd sy'n lleihau'r risg o ledaenu'r coronafeirws.
Bydd etholiadau mis Mai 2021 yn cael eu cynnal mewn ffordd debyg i etholiadau a gynhaliwyd yn flaenorol ond bydd rhai gwahaniaethau, fel y gwelwyd mewn sawl agwedd ar fywyd yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn cydweithio ar draws pleidiau a chyda phartneriaid etholiadol a chyrff iechyd y cyhoedd i roi cyfres o fesurau ar waith i sicrhau bod pob pleidlais yn cael ei chynnal mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID a gall pleidleiswyr deimlo'n hyderus wrth fwrw eu pleidlais.
Mae tair ffordd o bleidleisio yn y DU ym mis Mai: yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio; drwy bleidlais drwy’r post; neu drwy benodi dirprwy i bleidleisio ar ran pleidleisiwr.
Gall pleidleiswyr sy'n mynd i orsafoedd pleidleisio ddisgwyl gweld llawer o'r mesurau diogelu y maent eisoes yn gyfarwydd â hwy erbyn hyn – bydd hylif diheintio dwylo ar gael, a bydd sgriniau, marciau pellter a rhwystrau diogelu yn cael eu defnyddio fel y bo'n briodol. Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith y tu mewn a'r tu allan i orsafoedd pleidleisio a dylai pob pleidleisiwr ac aelod o staff wisgo gorchudd wyneb. Bydd pob pleidleisiwr yn cael ei annog i ddod â'i ysgrifbin neu ei bensil ei hun i farcio ei bapurau pleidleisio, ond bydd pensiliau glân, newydd ar gael i bawb hefyd.
Felly, gall unrhyw un sy'n teimlo'n gyfforddus yn mynd i archfarchnad neu i swyddfa bost nawr deimlo'n hyderus wrth fynd i orsaf bleidleisio ym mis Mai. Fodd bynnag, rydym yn deall na fydd pawb yn dymuno nac yn gallu pleidleisio'n bersonol. Felly, gall unrhyw un sy'n gwarchod ei hun, neu unrhyw un y byddai’n well ganddynt am unrhyw reswm beidio â mynd i orsaf bleidleisio, wneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy cyn yr etholiadau.
Mae manylion sut i wneud cais am bleidlais drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy i’w cael ar wefan y Comisiwn Etholiadol a byddant hefyd yn cael eu darparu ar gardiau pleidleisio. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn amrywio ledled y DU, ac felly rydym yn annog pob pleidleisiwr sy'n dymuno defnyddio un o'r opsiynau hyn i wneud cais yn gynnar.
Rydym hefyd yn parhau'n gwbl glir y dylai unrhyw un sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws, neu sy'n arddangos symptomau, hunanynysu. Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, bob un ohonynt, wedi rhoi rheolau newydd ar waith i alluogi pleidleiswyr i fanteisio ar bleidlais frys drwy ddirprwy yn y cyfnod yn arwain at y diwrnod pleidleisio a hyd at 5pm ar y diwrnod ei hun. Bydd hyn yn golygu y gall pleidleiswyr sy'n hunanynysu oherwydd iddynt ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, am eu bod wedi cael prawf neu am fod ganddynt symptomau ddweud eu dweud yn yr etholiadau hyn o hyd heb orfod gadael eu cartref.
Mae ymgyrchu yn agwedd arall ar yr etholiadau hyn lle gwelir gwahaniaethau o gymharu â threfniadau’r blynyddoedd a aeth heibio. Mae ymgyrchu'n bwysig er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr ddigon o wybodaeth cyn bwrw eu pleidlais, a rhaid i ymgeiswyr allu cyfathrebu â'r etholwyr. Fodd bynnag, rhaid taro cydbwysedd rhwng hyn a diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd gweithgarwch ymgyrchu, fel rhannu taflenni, yn dechrau ledled y DU wrth i gyfyngiadau COVID leddfu. Bydd cyflymder y gweithgarwch hwn yn amrywio rhwng y gwledydd a bydd angen i ymgyrchwyr ym mhob gwlad ddilyn y canllawiau a'r rheoliadau a wneir gan y Llywodraeth berthnasol.
Rhaid inni werthfawrogi hefyd, ar gyfer yr etholiadau hyn, oherwydd y mesurau ychwanegol sydd ar waith i sicrhau bod y cyfrifiadau yn ddiogel o ran COVID, efallai y bydd y broses o gyfrif pleidleisiau a chyhoeddi canlyniadau yn cymryd mwy o amser nag mewn blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, caiff y cyhoeddiad ynghylch y canlyniad ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau.
Mae'r Deyrnas Unedig yn fyd-enwog am gynnal etholiadau o'r safon uchaf y gall pleidleiswyr fod yn gwbl hyderus ynddynt – etholiadau a ddarperir ym mhob ardal gan y Swyddog Canlyniadau statudol annibynnol. Rydym yn gwbl hyderus yng ngallu'r Swyddogion Canlyniadau i gynnal yr etholiadau hyn mewn ffordd sy'n bodloni'r safonau uchaf o ran diogelwch y cyhoedd ac uniondeb democrataidd.
Gobeithiwn y bydd pob etholwr yn manteisio ar y cyfle i ddweud ei ddweud yn etholiadau mis Mai gyda'r hyder bod y rhagofalon cywir ar waith.