5 peth efallai na wyddoch chi am gwricwlwm newydd Cymru
5 things you may not know about Wales’s new curriculum
Gwnaed hanes yng Nghymru heno (dydd Mawrth, 9 Mawrth) pan gyrhaeddodd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ei gam olaf cyn cael ei basio i fod yn gyfraith.
Pleidleisiodd aelodau'r Senedd i basio testun terfynol y Bil sy'n golygu y bydd Cwricwlwm Cymru yn cael ei gyflwyno yn 2022.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru ac yn garreg filltir bwysig arall yng nghenhadaeth ein cenedl. Mae'r cwricwlwm newydd wedi'i ddatblygu i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle a'r gefnogaeth orau mewn bywyd i sicrhau bod pob un ohonyn nhw'n gallu ffynnu er budd dyfodol Cymru.
"Rwy'n ei alw'n genhadaeth ein cenedl gan ei bod wedi cynnwys pawb yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu’r cwricwlwm ar y cyd – athrawon, rhieni, academyddion, busnesau, sefydliadau cenedlaethol, a'm hadran i wrth gwrs - i godi safonau, mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad a chael system addysg i’n dysgwyr sy'n destun balchder i ni i gyd.
“Diolch yn fawr i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yn y daith hanesyddol hon i addysg yng Nghymru.”
Yn dilyn cael Cydsyniad Brenhinol, a ragwelir ym mis Ebrill, bydd y Bil yn dod yn Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog gynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru sy’n nodi'r camau nesaf yn y daith i ddiwygio Cymru, cyn cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Ochr yn ochr â chynllun gweithredu Cenhadaeth ein Cenedl sydd wedi'i ddiweddaru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen sy'n nodi disgwyliadau a rennir o'r hyn y mae gwireddu'r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr ac ysgolion o 2022. Mae Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022 wedi’i greu i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu’r Cwricwlwm a fydd yn llywio’n gwaith ar y cyd â phartneriaid i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.
Dyma bum peth efallai na wyddoch chi am y cwricwlwm newydd:
- Cafodd y cwricwlwm ei wneud yng Nghymru ond fe'i luniwyd gan ddefnyddio’r syniadau gorau o bob cwr o'r byd
Dyma'r tro cyntaf erioed i ysgolion yng Nghymru gael cwricwlwm cenedlaethol sydd wedi'i osod yng Nghyfraith Cymru.
Mae canllawiau’r cwricwlwm eisoes wedi'u cyhoeddi, ac maen nhw'n ganlyniad blynyddoedd lawer o waith sy'n cynnwys athrawon, arbenigwyr, sefydliadau cenedlaethol a chymunedol o Gymru, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), gan gynnwys sefydliadau o mor bell i ffwrdd â Seland Newydd!
Mae'r cwricwlwm wedi'i ddatblygu ar y cyd ers y camau cynharaf
Ffrwyth cydweithio agos a elwir yn gyd-awduro yw'r Cwricwlwm i Gymru – nid dictad o'r brig i lawr gan y Llywodraeth.
Cafodd ei ddatblygu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr, gan ddwyn ynghyd arbenigedd addysgol ac ymchwil a thystiolaeth ehangach.
Roedd yr OECD wedi cydnabod hynny mewn adroddiad, gan ddatgan i'r broses o gyd-awduro lwyddo i ennyn diddordeb llawer i gymryd rhan ac ymddiried yn y broses. Ac ar yr un pryd, bod addasiadau systemig mewn sefydliadau a pholisïau eraill yn helpu i sefydlu system addysg sy’n cael ei harwain yn broffesiynol.
Cynlluniwyd y cwricwlwm o gwmpas pedwar diben ar gyfer dysgwyr
Y pedwar diben fydd y man cychwyn a'r uchelgais ar gyfer cynlluniau pob ysgol o ran eu cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynrychioli'r math o ddysgwyr y dylai ysgolion helpu i'w datblygu ac ethos y system addysg gyfan.
Yn y pen draw, nod cwricwlwm ysgol fydd cefnogi ei ddysgwyr i ddod:
- yn ddysgwyr galluog, uchelgeisiol sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
- Mae pynciau a enwir wedi'u disodli gan Feysydd Dysgu a Phrofiad
Mae fframwaith y cwricwlwm yn cynnwys chwe maes dysgu a phrofiad:
- Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Dyniaethau
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae'r chwe maes yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon ar draws gwahanol ddisgyblaethau, a bydd hyn yn galluogi dysgwyr i feithrin cysylltiadau ar draws eu dysgu a chyfuno gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau.
Mae pob maes yn cynnwys datganiadau am Beth sy'n Bwysig – mae 27 o'r rhain yn y fframwaith cyfan – a’r rhain yw’r 'syniadau mawr' a’r cysyniadau allweddol ar gyfer y cwricwlwm. Dyma’r fframwaith cenedlaethol sy’n helpu i sicrhau'r un dysgu craidd a dull cyson o gynllunio'r cwricwlwm ar draws lleoliadau ac ysgolion.
- Bydd plant yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cwricwlwm llawn
Bydd ysgolion yn addysgu pob dysgwr am grefydd, gwerthoedd a moeseg, ac addysg cydberthynas a rhywioldeb, mewn ffordd gyson a datblygiadol briodol.
Bydd hyn yn sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed – a bydd pob disgybl yn dysgu am faterion fel diogelwch ar-lein a pherthynas iach.