Cymru'n cymryd cam ymlaen o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldeb systemig wrth basio'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Wales takes a step forward in addressing systemic inequality with the passing of the Socio-economic duty in Wales.
Wrth i Senedd Cymru basio rheoliadau’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol heddiw, dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt ei bod yn foment wirioneddol arloesol yn hanes Cymru.
Dywedodd Jane Hutt:
"Un o'n hamcanion allweddol fel Llywodraeth yw sicrhau ein bod yn creu cymdeithas sy’n fwy cyfartal a theg i bobl Cymru. Wrth i reoliadau’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol gael eu pasio gan Senedd Cymru heddiw yr ydym wedi cymryd cam mawr tuag at atgyfnerthu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Bydd y Ddyletswydd yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus penodedig ledled Cymru yn ystyried sut y bydd y penderfyniadau a wnânt yn helpu i leihau anghydraddoldeb a brofir gan gynifer o bobl yn sgil anfantais gymdeithasol ac economaidd, gan gyfrannu at Gymru fwy cyfartal.
Mae sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn ddyletswydd foesol y mae'n rhaid i bob un ohonom ei chymryd o ddifrif. Ni allwn anwybyddu mwyach y problemau y mae pobl yn eu hwynebu. Dyna pam y mae'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol mor hanesyddol. Bydd yn helpu ymhellach i fynd i'r afael â’r ansicrwydd sydd wedi deillio o Ymadael â’r UE a'n hadferiad o COVID-19, gan ein galluogi i ganolbwyntio ar ailadeiladu Cymru decach a mwy ffyniannus." Mae hon yn foment wirioneddol arloesol yn hanes Cymru."
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru:
"Mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn fecanwaith pwerus i'n helpu i gyrraedd nod Cymru Fwy Cyfartal.
Rhaid inni integreiddio’r ddyletswydd hon â dyletswyddau eraill sy'n bodoli eisoes a meddwl yn gyfannol. Gallwch ddefnyddio'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i lywio eich asesiadau, cynlluniau a’ch amcanion llesiant.
Mae popeth wedi'i gysylltu â phopeth; drwy fynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol, byddwch yn cyfrannu at yr holl nodau llesiant. Peidiwch â'i ystyried fel rhywbeth ychwanego. Yn hytrach dylai fod yn rhan annatod o bopeth a wnewch."
Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd-lefarydd Cydraddoldeb, Diwygio Lles a Gwrthdlodi CLlLC:
"Mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd yn dod i rym ar adeg pan fo tlodi yng Nghymru yn waeth nag erioed yn sgil pandemig COVID.
Bydd y ddyletswydd yn helpu cynghorau a chyrff cyhoeddus i sicrhau, , eu bod yn ystyried effaith penderfyniadau strategol allweddol ar ganlyniadau i'r rhai sy'n profi anfantais gymdeithasol ac economaidd.
Mae llawer o gynghorau eisoes wedi dechrau ymgorffori'r egwyddorion a'r prosesau sydd ynghlwm wrth y ddyletswydd newydd hon ond bydd yn newid y ffordd y gwneir penderfyniadau, gan sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn rhagweld effeithiau penderfyniadau strategol ar bobl ar incwm isel.
Ei nod yw datgloi potensial y Ddeddf Cydraddoldeb a bydd yn ein helpu i sicrhau Cymru fwy cyfartal."
Dywedodd y Parch Ruth Coombs, Pennaeth Cymru yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol,
'Rydym yn croesawu'n fawr y ffaith bod Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid dod â Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol y Ddeddf Cydraddoldeb i rym yng Nghymru.
'Mae'r ddyletswydd yn darparu sbardun newydd hanfodol i helpu i leihau effaith tlodi. Yr ydym am weld y ddyletswydd yn dylanwadu ar flaenoriaethau strategol a phennu cyllidebau, fel bod cyrff cyhoeddus yn blaenoriaethu lleihau'r anghydraddoldebau mwyaf dybryd a brofir gan bobl yng Nghymru. Os na fyddwn yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn yn awr, bydd yr anfantais a wynebir gan lawer o bobl yng Nghymru yn parhau am genedlaethau i ddod.