English icon English

Cyfle i blant ysgol ddylunio cerdyn Nadolig y Prif Weinidog

Schoolchildren asked to design First Minister’s Christmas card

Bydd y cerdyn buddugol yn cael ei anfon at y Frenhines ac Arlywydd Etholedig yr Unol Daleithiau, Joe Biden

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn gofyn i artistiaid ifanc brwdfrydig gymryd rhan yn ei gystadleuaeth dylunio cerdyn Nadolig eleni.

Bydd y cynllun buddugol yn cael ei ddewis gan y Prif Weinidog ac yn cael ei ddefnyddio fel ei gerdyn Nadolig swyddogol.

Mae’r Prif Weinidog yn anfon ei gerdyn Nadolig at filoedd o bobl ledled y byd, gan gynnwys y Frenhines ac  Arlywydd Etholedig yr Unol Daleithiau, Joe Biden a’r Dirprwy Arlywydd Etholedig, Kamala Harris.

Er nad yw’r enfys yn  cael ei chysylltu’n draddodiadol â’r Nadolig, gofynnir i’r plant, y mae’n rhaid iddynt fod rhwng saith ac 11 oed i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, dalu teyrnged i ymdrechion gweithwyr hanfodol yn ystod y pandemig drwy ddefnyddio eu dychymyg i gynnwys y symbol lliwgar yn eu cynllun.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld fy nesg, sydd fel arfer yn llawn pentyrrau o waith papur, wedi’i gorchuddio gyda chynlluniau llachar ac enghreifftiau o symbol yr enfys yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd Nadoligaidd. 

“Mae angen codi calon pob un ohonom ar ôl blwyddyn galed ac mae enfys bob amser yn gwneud imi wenu. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth dychymyg y plant yn fy mag post!”

Canllawiau ar gyfer cymryd rhan

  • Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw dydd Mercher 2 Rhagfyr
  • Mae'r gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion ym mlynyddoedd tri i chwech yn yr ysgol (7-11 oed)
  • Gallai’r cynllun gynnwys enfys a seren y Nadolig
  • Dylai pob cerdyn fod yn faint A4 ar y mwyaf (210mm x 297mm)
  • Nid oes ots a yw'r cerdyn ar i fyny neu ar draws
  • Dylai pob cerdyn fod yn "fflat" – dim arwyneb anwastad, dim gwlân cotwm, glitr ac ati
  • Lliwiau llachar sy'n cael eu hatgynhyrchu orau
  • Dylech osgoi cefndir tywyll
  • Os ydych am gynnwys testun, yna gofynnwch i’ch athro eich helpu i gyfieithu, neu defnyddiwch Google Translate. Dyma rai ymadroddion safonol: Nadolig Llawen- Merry Christmas / Cyfarchion y Tymor- Season’s Greetings. Rhowch y Gymraeg yn gyntaf ac yna'r Saesneg.
  • Cofiwch gynnwys enw a manylion cyswllt y plentyn gyda’r cerdyn
  • Yn anffodus, ni allwn ddychwelyd unrhyw gardiau
  • Gellir anfon cardiau sydd wedi’u gwneud ar gyfrifiadur drwy e-bost. Gellir anfon cardiau nad ydynt wedi’u creu ar gyfrifiadur drwy e-bost hefyd – tynnwch lun clir o’ch cynllun, ond cofiwch gadw’r gwaith gwreiddiol fel y gallwch ei anfon atom os byddwch yn llwyddiannus.
  • E-bostiwch eich cardiau i cabinetcommunications@llyw.cymru neu gallwch eu hanfon drwy’r post: Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig y Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ