English icon English

‘Mae mwy i gartref na brics a morter’: buddsoddiad o £32m mewn tai cymdeithasol newydd

‘A home is more than bricks and mortar’: £32m investment in new social housing

Roedd Shirley Jones wrth ei bodd yn cael symud i’w thŷ newydd yn Llanbedr Pont Steffan, unwaith yr oedd hi’n ddiogel i wneud hynny ar ôl y cyfnod clo cyntaf, a adeiladwyd diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae Shirley a’i merch tair oed, Briallen, wedi bod yn aros am ddwy flynedd i symud o’i fflat ail lawr i gartref gyda gardd. 

 

Fe wnaethon nhw symud i’w cartref dwy lofft, sydd newydd gael ei adeiladu ar hen safle Ysgol Gynradd Ffynonbedr yn Llanbedr Pont Steffan, yn ystod haf 2020 ac ni fu Briallen yn hir iawn cyn mynd allan i chwarae a chael hwyl yn ei gardd newydd.  

 

Dywedodd Shirley: “Mae’n cartref newydd yn fodern ac yn glyd, yn berffaith i’n anghenion ni. Roedd yn bwysig ein bod yn aros yn Llanbedr Pont Steffan i fod yn agos at fy nheulu, sy’n byw yn yr ardal.” 

“Roedd byw mewn fflat heb le yn yr awyr agored yn hunlle i’r ferch yn ystod y cyfnod clo. Mae gallu mynd allan i’r awyr agored, cael awyr iach a gallu chwarae’n ddiogel wedi bod mor bwysig yn ystod y cyfnodau clo. Mae Briallen wrth ei bodd yn yr awyr agored yn chwarae yn ein gardd.” 

 

Cydweithiodd Cymdeithas Tai Wales & West â Hacer Developments i adeiladu 18 o dai newydd, sy’n gymysgedd o dai a rhandai, ar hen safle Ysgol Gynradd Ffynonbedr. Trefnodd staff Cymdeithas Tai Wales & West ymweliadau rhithiol â’r tai a’r rhandai a bod y dyddiadau ar gyfer symud i mewn yn amrywio er mwyn caniatáu ar gyfer cadw pellter a chadw’r preswylwyr yn ddiogel. Datblygwyd y tai gyda chymorth o Gronfa Tir ar gyfer Tai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James: “Drwy’r Gronfa Tir ar gyfer Tai rydym yn benthyg arian i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu prynu tir i ddatblygu tai fforddiadwy a thai ar gyfer y farchnad agored. Wrth iddynt dalu’r benthyciad yn ôl, rydym yn ailgylchu’r cyllid fel y gellir adeiladu rhagor o dai.

“Mae Shirley a Briallen yn dyst bod tai yn llawer mwy na brics a morter. Mae wedi dod i’r amlwg yn y flwyddyn ddiwethaf, yn fwy nag erioed, pa mor bwysig yw tai fforddiadwy a diogel i’n hiechyd a’n lles.

“Rwy’n ffyddiog y byddwn yn cyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy cyn diwedd tymor y Senedd hon, ac nid yw’r cynllun Tir ar gyfer Tai yn ddim ond rhan o’n hymrwymiad i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru.”

Drwy'r cynllun Tir ar gyfer Tai, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £72 miliwn o gyllid benthyciadau i gefnogi'r gwaith o adeiladu ychydig dros 6,300 o gartrefi newydd, a bydd dros 83% ohonynt yn fforddiadwy.

Dywedodd Joanna Davoile, Cyfarwyddwr Datblygu yng Nghymdeithas Tai Wales & West: "Mae darparu cartrefi modern a rhad ar ynni mewn cymunedau fel y gall pobl leol fel Shirley fforddio byw'n agos at eu teulu yn y mannau lle cawsant eu geni a'u magu, yn allweddol i bopeth sy’n cael ei wneud gennym yng Nghymdeithas Tai Wales and West.

“Rydym yn adeiladu mwy o gartrefi newydd nag erioed o’r blaen, tai sy’n fforddiadwy yng ngwir ystyr y gair, er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o 20,000. Ar hyn o bryd, mae tua 900 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ac rydym yn anelu at gwblhau 2,500 o gartrefi newydd ledled Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

“Mae cefnogi economi Cymru drwy ddarparu gwaith a chartrefi i bobl leol mor bwysig ac erioed yn y sefyllfa sydd ohoni. Mae  cynllun Tir ar gyfer Tai Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i’n helpu i gyrraedd ein nodau o ran adeiladu tai fforddiadwy, a gwneud ein rhan i fynd i’r afael â digartrefedd.”