English icon English

Y prosiectau cyntaf i elwa o’r gronfa band eang gwerth £10 miliwn

First projects benefit from £10m broadband fund

Mae’r prosiectau cyntaf i elwa o Gronfa Band Eang Lleol gwerth £10 miliwn Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cyhoeddi heddiw gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. 

Mae’r Gronfa Band Eang Lleol yn cefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol, gan helpu cymunedau sydd heb fynediad ato. 

Gall awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol wneud cais am gyllid i helpu i ddod â band eang cyflym a dibynbadwy i gymunedau sydd â chysylltiad gwael.  Mae cam nesaf y gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau ac i gau ar 28 Ionawr. 

          Mae dau brosiect yn Sir Fynwy ac un yn Michaelston y Fedw ger Casnewydd i elwa o dros £1.1 miliwn rhyngddynt er mwyn datblygu prosiectau i wella mwy ar gyflymder band eang yn eu hardaloedd.    

          Caiff ceisiadau eu cyflwyno i’r Gronfa Band Eang Lleol gan awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i fynd i’r afael â phroblemau pendodol gyda cyflymder band eang yn eu cymunedau. 

          Y prosiectau i elwa yn y cam cyntaf yw:

Cwm Llanddewi Nant Honddu, Sir Fynwy: Ateb ffibr hybrid / tonfedd i ddod â chysylltiadau gwell i'r ardal.  Mae gan y cwm 122 o adeiladau ac mae 30 y cant ohonynt yn fusnesau yn yr ardal dwristiaeth boblogaidd hon.  Ar hyn o bryd mae'n un o'r ardaloedd sydd â'r cysylltiadau gwaethaf yn y sir.

  • Cynllun Cyngor Sir Fynwy i adeiladu rhwydwaith mynediad opteg di-wifr a ffibr cymysg sy'n gallu darparu cyflymder o rhwng 50Mbs ac 1Gbs ar draws Sir Fynwy i gymunedau difreintiedig yn ddigidol. Bydd hefyd yn cefnogi prosiect prawf 5G Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o gysylltu cymunedau gwledig yn Sir Fynwy a chymunedau lled-drefol ym Mlaenau Gwent.
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol Rhyngrwyd Michaelston y Fedw - Ers 2018 mae'r cwmni wedi darparu 240 o gysylltiadau ffibr i'r safle i adeiladu gwledig a oedd gynt yn ei chael yn anodd derbyn gwasanaeth band eang y gellid ei ddefnyddio. Ar hyn o bryd mae'r holl offer gweithredol wedi'i osod mewn cynhwysydd llongau yn Michaelston y Fedw. Bydd yr arian yn cyfrannu at ganolfan ddata ddiogel a cheblau ffibr o'r ganolfan honno, a fyddai hefyd yn rhoi cyfle i ehangu i fwy o safleoedd yn y dyfodol

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Dros y flwyddyn anodd a heriol hon nid yw pwysigrwydd band eang dibynadwy cyflym erioed wedi bod yn fwy amlwg.  Er nad yw’r maes hwn wedi ei ddatganoli i Gymru rydym yn cymryd camau i ddod â band eang cyflymach a chysylltedd symudol gwell ble y bo modd. 

“Er y gall y mwyafrif llethol o adeiladau ledled Cymru bellach ddefnyddio band eang cyflym iawn, yn dilyn ein hymyraeth gyda Cyflym Cymru, rydym yn gwybod bod cymunedau yn parhau i dderbyn gwasanaeth gwael. 

“Mae’r Gronfa Band Eang Lleol yn caniatáu i awdurdodau lleol enwebu cynlluniau penodol fydd yn targedu cymunedau ble y mae problemau gydag chyflymder isel a signal symudol gwael.  Dwi’n falch heddiw o gyhoeddi y tri cynllun cyntaf i elwa o’r cyllid hwn.  Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau hynny. 

“Dwi’n edrych ymlaen at wneud rhagor o gyhoeddiadau dros yr ychydig fisoedd nesaf a byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddewis y cymunedau a’r cynlluniau fyddai’n elwa fwyaf o’r gronfa hon.”