Newyddion

Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 268 o 320

Welsh Government

Dyfarnu dros £7 miliwn ar gyfer ffordd fynediad Maes Awyr Llanbedr

   Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru Ken Skates heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo dros £7 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at adeiladu ffordd fynediad newydd Llanbedr yng Ngwynedd.  Golyga hyn fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £10 miliwn yn y cynllun.

Seren Stiwdios -2

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bod Great Point yn cymryd awenau Seren Stiwdios

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw bod Great Point, y busnes buddsoddi yn y cyfryngau, wedi ymrwymo i gytundeb i brydlesu a rheoli Seren Stiwdios ger Caerdydd.

Welsh Government

Trelar embargo 00:01 Dydd Gwener 2 Hydref

Yn yr adolygiad 21 diwrnod heddiw o reoliadau’r coronafeirws, nid oes disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford wneud newidiadau mawr i reolau coronafeirws cenedlaethol Cymru, wrth i’r achosion o’r feirws barhau i gynyddu.  

Professor Charlotte Williams-2

Prosiect 'gwirioneddol arwyddocaol' i wella adnoddau addysg pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru

Heddiw, ar ddechrau Mis Hanes Pobl Dduon, mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect 'gwirioneddol arwyddocaol' sy'n ceisio gwella'r ffordd y caiff themâu yn ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eu haddysgu ar draws pob rhan o'r cwricwlwm ysgol.

ear -12

Gwasanaeth rheoli cwyr clustiau yn cael ei ddarparu ar draws lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol yn Gymru

Mae gwasanaethau rheoli a gofalu am gwyr clustiau yn cael eu had-drefnu yn fwy effeithiol ledled Cymru i sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer pob claf, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw [Dydd Iau 1].

BHWales-Cymru-Logo-svg- 1 -2

Cynyddu’r momentwm tuag at Gymru sy’n rhydd rhag camwahaniaethu ac anghydraddoldeb drwy Hanes Pobl Dduon Cymru 365

Heddiw, wrth i Lywodraeth Cymru gynyddu momentwm yr ymgyrch tuag at Gymru sy’n rhydd rhag camwahaniaethu ac anghydraddoldeb, gofynnodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, i bobl Cymru wrando ar adroddiadau o hanes a threftadaeth cymunedau amlddiwylliannol yng Nghymru, a dysgu oddi wrthynt.

Karys and Ben 2-2

Cynllun peilot bwndeli babi yn cael ei roi ar waith yng Nghymru

Fel rhan o gynllun peilot newydd, bydd y ‘bwndeli babi’ cyntaf yn cael eu dosbarthu i fenywod beichiog yng Nghymru yr wythnos hon.

Copy of 2019 NLWExterior Aerial small 2

Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Datganiad i’r Wasg ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phanel yr Adolygiad Teilwredig

Welsh Government

Cryfhau potensial safle Trawsfynydd ar gyfer y dyfodol

Bydd sefydlu Cwmni Datblygu yn helpu i wireddu a chryfhau potensial safle’r hen bwerdy yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.

Welsh Government

Ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035 yn cael eu lansio

Mae cynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035 ac i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd talu am yr ynni domestig sydd ei angen arnynt wedi cael eu cyhoeddi heddiw yn barod i fod yn destun ymgynghoriad.

Welsh Government

Cyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol i reoli achosion yn y Gogledd

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw bod cyfyngiadau coronafeirws newydd yn cael eu cyflwyno yn ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol y Gogledd –  Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam – yn dilyn cynnydd mewn achosion

WG positive 40mm-3

Cannoedd o fusnesau yn Abertawe yn gwneud cais am gyllid adfer

Mae dros 200 o fusnesau yn Abertawe wedi gwneud cais i gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, cronfa gwerth £5.3 miliwn i helpu masnachwyr i ymateb i’r pandemig.