English icon English

Cytundeb gwan yn well na dim cytundeb – Prif Weinidog Cymru

Thin deal is better than no-deal – First Minister

Wrth ymateb i'r newyddion bod cytundeb wedi'i sicrhau rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â’r telerau masnachu ar ôl Brexit, mae Llywodraeth Cymru wedi ailgadarnhau ei safbwynt hirsefydlog y byddai unrhyw gytundeb yn well na dim cytundeb.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Wrth gwrs, mae angen i ni dderbyn copi o'r Cytundeb drafft a dadansoddi ei delerau cyn gwneud sylwadau manwl.

“Ond ym mhob cam o'r trafodaethau rydym wedi dadlau dros gytundeb a fyddai'n ein galluogi i gynnal y berthynas agosaf bosibl â'r UE. Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym mai dyma'r ffordd i ddiogelu'r economi a swyddi. 

"Yn wyneb dau ddewis rhwng dim cytundeb a hyn – yn wir unrhyw gytundeb – byddem yn ffafrio cytundeb.

"Fodd bynnag, mae'n warthus ei bod wedi cymryd tan wythnos cyn i ni adael y cyfnod pontio i roi'r arwydd cyntaf o'r telerau y byddwn yn masnachu arnynt gyda'n partner masnachu pwysicaf. Bydd hyn yn ychwanegu at yr heriau enfawr sy'n wynebu ein busnesau ni.

"Ac er nad oes gennym unrhyw fanylion, rydym yn gwybod nad y cytundeb hwn yw'r un y byddem ni wedi'i drefnu – ar ôl 31 Rhagfyr, bydd busnesau Cymru yn parhau i wynebu rhwystrau newydd mawr wrth fasnachu; ni fydd dinasyddion Cymru yn gallu teithio'n rhydd bellach yn Ewrop; ac nid oes llawer yn cael ei gynnig i fusnesau'r sector gwasanaethau.

"Er hynny, mae'r cytundeb hwn yn well na'r trychineb a fyddai wedi digwydd gyda dim cytundeb. Mae'n golygu ein bod wedi cadw ein perthynas â'n partneriaid masnachu agosaf a phwysicaf. Mae'n darparu llwyfan ar gyfer trafod gwell trefniadau yn y dyfodol.

"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'i holl bartneriaid, busnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru i helpu a pharatoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio a'r berthynas newydd gyda'r UE.”