English icon English
FM Presser Camera 2

“Cytundeb gwan a siomedig sy'n gwneud masnach yn anoddach” – Prif Weinidog Cymru

“A thin and disappointing deal that makes trade more difficult” – First Minister

Bydd y “cytundeb gwan a siomedig” y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog yn gwneud masnach gyda'n marchnadoedd Ewropeaidd pwysicaf yn ddrutach ac yn fwy anodd ar ôl 31 Rhagfyr, meddai Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford heddiw [30 Rhagfyr].

Yn siarad wrth i'r Senedd gael ei galw'n ôl i drafod y “cytundeb pwysicaf” y bydd y DU yn ei lofnodi mewn 50 mlynedd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai effaith Brexit yn cael ei theimlo ym mhocedi pob person.

Ac fe gyhuddodd Lywodraeth y DU o “fandaliaeth ddiwylliannol” drwy wrthod mynediad i bobl ifanc yng Nghymru i raglen Erasmus, y mae Cymru wedi gwneud cymaint i ddylanwadu arni a'i meithrin meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae busnesau eisoes yn gwybod y bydd y cytundeb yn gwneud masnach gyda'n marchnad fwyaf a phwysicaf yn ddrutach ac yn fwy anodd.

“Mae methu cynnwys mynediad i'r Farchnad Sengl ar gyfer gwasanaethau'r DU yn golygu y bydd rhaid i fusnesau ddibynnu ar 27 set wahanol o reolau cenedlaethol i fasnachu ar draws yr UE, lle mae ganddynt un heddiw.

“I'n dinasyddion, mae'n golygu ciwiau mewn meysydd awyr; fisa ar gyfer ymweliadau hirach; galwadau ffôn symudol drutach a llai o bobl o'r UE yn gallu gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, yn gofalu am bobl sydd angen help.

“I'n pobl ifanc, mae'n golygu fandaliaeth ddiwylliannol drwy eu torri o raglen Erasmus+, y mae pobl o Gymru wedi gwneud cymaint i ddylanwadu arni a'i meithrin. Mae hefyd yn gwadu dyfodol iddynt lle gallant fyw a gweithio'n rhydd ar draws cyfandir Ewrop gyfan.”

Heddiw [30 Rhagfyr] bydd y Senedd yn trafod y cytundeb masnach y cytunwyd arno rhwng y DU a'r UE a Bil Perthynas yn y Dyfodol Llywodraeth y DU ar yr un pryd ag y cânt eu trafod yn Nhai Seneddol y DU.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles:

“Nid dyma'r cytundeb y galwodd Llywodraeth Cymru amdano neu y byddai wedi'i drefnu. Ond mae'n well na thrychineb dim cytundeb ac mae'n rhoi llwyfan i ni ar gyfer trafod trefniadau gwell yn y dyfodol.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid, busnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru i helpu i lywio a pharatoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio a'r berthynas newydd â'r UE.”

Nodiadau i olygyddion

Dadl: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE

Cynnig bod y Senedd:

  1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio.
  1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol).
  1. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli.
  1. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol yn adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau i Gymru' ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
  1. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor gymaint â phosibl a fydd yn deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw.

Diogelu dyfodol Cymru[Opens in a new browser window]

Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru[Opens in a new browser window]