Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 271 o 320
Dweud eich dweud ar ddyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru
Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn lansio trafodaeth genedlaethol heddiw ar gynllun newydd i helpu i sicrhau dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Cogydd enwog yn cefnogi’r ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’ mewn cais i arwain ar ailgylchu.
Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ymgyrch newydd i gael pobl yng Nghymru i ailgylchu mwy mewn cais i arwain y byd ar ailgylchu.
£420,000 i sicrhau prydau ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n hunanwarchod neu’n hunanynysu
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob disgybl sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn parhau i’w derbyn os ydynt yn hunanwarchod neu’n gorfod hunanynysu, diolch i £420,000 a gadarnhawyd gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Wrth siopa, rhaid gwisgo gorchudd wyneb a chadw pellter cymdeithasol er mwyn Cadw Cymru’n Ddiogel – meddai Lesley Griffiths
Mewn siopau ac archfarchnadoedd yng Nghymru, rhaid gwisgo gorchudd wyneb a chadw pellter cymdeithasol o 2 fetr er mwyn helpu i rwystro’r Coronafeirws rhag lledaenu, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.
Gwobrau Dewi Sant 2021: Gwobr newydd ar gyfer arwyr y pandemig
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw ar bobl Cymru i helpu i ddod o hyd i bobl fwyaf hynod y wlad, drwy eu henwebu ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant.
Estyn cymorth i brynwyr cartrefi
Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi y bydd cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn cael ei estyn am drydydd cam.
Gweinidogion Cyllid yn mynegi ‘pryderon gwirioneddol’ ynghylch Bil Marchnad Fewnol y DU
Mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyfarfod i drafod materion cyllidol amrywiol. Maent wedi lleisio ar y cyd eu pryderon am oblygiadau ariannol Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i’r llywodraethau datganoledig.
Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cefnogi y symudiad yng Nghymru tuag ar Ranbarthiaeth
Mae adroddiad newydd gan yr arbenigwyr rhanbarthol Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn rhoi tystioalaeth i gefnogi dull Llywodraeth Cymru o gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol.
Penodi cynrychiolwyr i hyrwyddo Cymru i’r byd fel lle da i fuddsoddi ynddo
Mae tri chynrychiolydd sy’n angerddol dros Gymru wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo’r wlad dramor.
Pecyn cyllid gwerth £14 miliwn ar gyfer sector chwaraeon a hamdden Cymru
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi pecyn cyllid heddiw [dydd Iau 17 Medi] i gefnogi sector chwaraeon a hamdden Cymru.
Cyfyngiadau lleol i reoli’r coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf
Caiff y cyfreithiau coronafeirws eu tynhau ar draws ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn cynnydd mawr yn yr achosion o’r feirws, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.
Yr estyniad dros dro ar y cyfnod rhybudd cyn troi allan i gael ei ymestyn
Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y bydd yr estyniad dros dro yn y cyfnodau rhybudd cyn troi allan, gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn cael ei ymestyn i 31 Mawrth 2021.