English icon English
FM Presser Camera 1

Cyhoeddi cynllun rheoli COVID-19 wedi’i ddiweddaru

Updated covid control plan to be published

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd fersiwn wedi’i diweddaru o gynllun rheoli COVID-19 ar gyfer Cymru yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.

Mae'r cynllun yn nodi'n fanwl sut y bydd mesurau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy unffurf a rhagweladwy, yn dibynnu ar ystod o ddangosyddion, gan gynnwys lefel y feirws yng Nghymru a’r risg heintio.

Mae'n diweddaru’r dull o newid cyfyngiadau a nodwyd yn Arwain Cymru allan o’r Pandemig Coronafeirws a Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi. Bydd yn rhoi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau am y cyfyngiadau, sy’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl ac arafu lledaeniad y feirws.

Mae Cymru ar lefel rhybudd 3 ar hyn o bryd. Cafodd y mesurau cenedlaethol eu cryfhau ar 4 Rhagfyr er mwyn ymateb i’r cynnydd cyflym yn lefelau’r coronafeirws ledled Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae hon wedi bod yn flwyddyn wirioneddol heriol. Ni ellir gorbwysleisio’r effaith y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar bob un ohonom – ar bob agwedd ar ein bywydau. Fel bron pob gwlad yn y byd, rydym wedi rhoi cyfyngiadau ar waith i reoli lledaeniad y feirws marwol hwn.

"Mae'r cynllun diweddaraf hwn yn dangos sut y bydd y mesurau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn ffordd fwy unffurf wrth inni symud drwy'r pandemig, gan roi mwy o sicrwydd i bobl a busnesau."

Mae’r cynllun diwygiedig wedi’i lywio gan ddadansoddiad diweddaraf ein harbenigwyr gwyddonol a meddygol a Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE). Mae hefyd wedi’i lywio gan y profiad mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae'r cynllun yn nodi pedair lefel rhybudd – o lefel rhybudd 1 i lefel rhybudd 4:

  • Lefel rhybudd 1 (risg isel) – dyma’r agosaf at normalrwydd yr ydym yn debygol o’i gael cyn yr haf a hyd nes y bydd brechlynnau wedi’u darparu yn eang.
  • Lefel rhybudd 2 (risg ganolig) – cyflwyno mesurau rheoli ychwanegol wedi’u targedu i gadw’r cyfraddau heintio ar lefelau is. Gall y rhain gael eu hategu gan gyfyngiadau lleol wedi’u targedu’n fwy i reoli achosion neu frigiadau penodol.
  • Lefel rhybudd 3 (risg uchel) – dyma’r pecyn llymaf o gyfyngiadau, heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo.
  • Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn) – mae cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i gyfnod clo ac yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud y bydd angen i Gymru symud i lefel rhybudd 4 ar ôl y cyfnod o bum niwrnod dros y Nadolig, oni bai y bydd y mesurau cenedlaethol cryfach, ynghyd ag ymdrechion pawb, yn llwyddo i leihau cyfraddau’r coronafeirws. Fodd bynnag, nid yw hynny’n anochel.

Ychwanegodd:

"Y peth pwysicaf y gallwn ni i gyd ei wneud i reoli lledaeniad y coronafeirws yw lleihau nifer y bobl rydym yn dod i gysylltiad â nhw. Mae'r feirws yn ffynnu ar ymddygiad dynol – pryd bynnag a ble bynnag y byddwn yn dod ynghyd ac yn treulio amser gyda'n gilydd, gall y feirws gael ei drosglwyddo o’r naill berson i’r llall.”

Bydd y mesurau cenedlaethol yn parhau i gael eu hadolygu bob tair wythnos, ni waeth pa lefel rhybudd sydd mewn grym yng Nghymru.