Gadewch i ni wynebu unigrwydd gyda’n gilydd – un cysylltiad ar y tro
Let’s face loneliness in Wales together – one connection at a time
Mae’r Prif Weinidog a chabinet Llywodraeth Cymru wedi galw ar bobl Cymru i gefnogi’r bedwaredd ymgyrch Great Winter Get Together sy’n cychwyn yr wythnos hon.
Mae'r ymgyrch mis o hyd yn cael ei chynnal ledled y DU gyda'r nod o fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, a dod â chymunedau a phobl at ei gilydd. Ysbrydolwyd y syniad gan y diweddar Jo Cox, a oedd yn credu’n angerddol mewn lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd.
Gan fwrw ymlaen â gweledigaeth Jo Cox o fyd llai unig, mwy cysylltiedig, mae'r ymgyrch yn cynnig ffyrdd syml o gysylltu yn y gymuned a thrwy ddigwyddiadau rhithwir.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
"Gall unrhyw un brofi unigrwydd, ond gall y gaeaf fod yn gyfnod arbennig o anodd, yn enwedig eleni.
"Mae cysylltu â ffrindiau a theulu drwy'r pandemig wedi bod yn anodd, ond mae llawer o bobl wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o gysylltu drwy ddigwyddiadau ar-lein, neu drwy gefnogi eraill yn eu cymuned.
"O'r rhai sydd wedi sefyll ar garreg y drws i siarad â chymdogion a fyddai fel arall wedi treulio dyddiau ac wythnosau'n unig; i grwpiau cymunedol sydd wedi sefydlu sesiynau ar y rhyngrwyd ar gyfer pobl y mae eu teuluoedd yn byw ymhell i ffwrdd; i grwpiau cefnogi a sefydlwyd i helpu gweithwyr gofal; i grwpiau o gymdogion sydd wedi dod o hyd i ffyrdd gwerthfawr o weithio gyda'i gilydd, codi arian neu wneud cynnyrch i helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol: hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn eich cymunedau mewn cynifer o wahanol ffyrdd.
"Drwy eich dyfeisgarwch, rydych wedi cysylltu â phobl a fyddai fel arall wedi cael eu hynysu ac ar ben eu hunain. Diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud. Parhewch i gefnogi eich cymunedau'n ddiogel, ym mha ffordd bynnag sy'n gweddu orau i chi."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
"Mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn deimladau sy'n gallu cyffwrdd â ni ar unrhyw oedran ac yn unrhyw gyfnod o'n bywyd. Yn anffodus, mae teimladau o unigrwydd wedi cynyddu eleni, ond mae'n galonogol gweld y ffyrdd niferus y mae pobl wedi addasu a chefnogi eu cymuned a'i gilydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud gwahaniaeth.
"Eleni lansiais strategaeth unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol gyntaf erioed Cymru, o'r enw Cysylltu Cymunedau. Y strategaeth yw'r cam cyntaf tuag at helpu i newid sut mae pobl yn meddwl am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol."
Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
“Gall tymor yr ŵyl fod yn arbennig o anodd i'r rhai sy'n teimlo unigrwydd ac arwahanrwydd, ac eleni bydd yn effeithio ar fwy o bobl nag erioed. Mae yna lawer o fudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r mater hwn.
“Mae’r Great Winter Get Together yn enghraifft wych arall o'r gwaith caled a haelioni ysbryd sy'n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd trwy greu cysylltiadau ystyrlon.”