Y Gronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol i warchod dros 470 o swyddi ym musnesau Abertawe
Economic Resilience Fund vital in protecting more than 470 jobs at Swansea-based businesses
Mae Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru wedi helpu i warchod dros 470 o swyddi mewn dau o fusnesau Abertawe rhag effeithiau economaidd y coronafeirws.
Mae Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru wedi helpu i warchod dros 470 o swyddi mewn dau o fusnesau Abertawe rhag effeithiau economaidd y coronafeirws.
Mae’r gweithgynhyrchydd Toyoda Gosei UK Ltd a’r manwerthwr C.E.M. Day Ltd yn ddau gyflogwr pwysig yn yr ardal a gwelwyd effaith ddifrifol o ganlyniad i’r pandemig.
Derbyniodd C.E.M. Day £357,000 gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, i gynnal rhai gweithrediadau ac i helpu i warchod bywoliaeth dros 350 o aelodau staff.
Cafodd Toyoda Gosei UK Ltd, sy’n arbenigo mewn rhannau modurol ac LEDs, £116,000 gan y Gronfa Cadernid Economaidd.
Mae hyn wedi helpu’r busnes barhau i weithredu ac yn y pen draw warchod ei weithlu.
Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru i fusnesau, yn darparu cymorth ariannol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru. Mae’n ategu’r cymorth gan Lywodraeth y DU.
Hyd yma, mae Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £300 miliwn o gymorth i dros 13,000 o gwmnïau yng Nghymru, gan helpu i warchod dros 100,000 o swyddi.
Meddai Leighton Davies, o C.E.M. Day Ltd: “Mae effaith y pandemig Covid-19 ar ein busnes wedi bod yn erchyll ac wedi arwain at gau dros dro ran fwyaf o’n delwriaethau.
“Roedd cymorth ariannol Llywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Cadernid Economaidd yn hollbwysig wrth warchod gwaith nifer sylweddol o’n gweithwyr. Roedd hefyd yn galluogi’r cwmni i gadw masnachfraint mewn nifer o’n lleoliadau deilwriaeth.”
Meddai Amanda Howse, uwch-reolwr adnoddau dynol gyda Toyoda Gosei UK Ltd: “Roedd y cyllid a gafodd Toyoda Gosei UK Ltd fel rhan o’r Gronfa Cadernid Economaidd yn caniatáu inni warchod ein gweithlu drwy’r pandemig.
“Rhoddodd yr hyblygrwydd inni barhau i gyflewnwi ein cwsmeriaid tra’n ymdopi gydag amrywiadau o ran niferoedd, a’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau o ran y galw.
“Ni allwn wneud rhan fwyaf o’n gwaith o gartref gan ei fod hefyd yn hollbwysig i sicrhau bod ein gweithwyr yn hyderus yn y mesurau rydyn ni wedi’u cymryd i sicrhau eu hiechyd a’u diogelwch tra y maent ar y safle.”
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Mae’r coronafeirws wedi gosod heriau hynod anodd ar ein cymuned fusnes eleni. Mewn ymateb rydyn ni wedi gweithio’n galed i geisio gwarchod cwmnïau, swyddi a bywoliaeth pobl drwy becyn digynsail o gymorth, wedi’i ddarparu’n gyflym, sy’n werth mwy na £1.7bn. Dyma’r cymorth mwyaf hael i fusnesau mewn unrhyw fan yn y DU.
“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn rhan allweddol o hynny, ac rwy’n falch ei fod wedi cynnig y cymorth ariannol hollbwysig i C.E.M. Day Ltd a Toyoda Gosei UK Ltd ar gyfnod pan oeddent ei angen fwyaf, gan warchod cannoedd o swyddi.
“Rydyn ni’n gwybod bod busnesau yn wynebu pwysau parhaus, a’r angen am ragor o gymorth, ac rydyn ni’n parhau i edrych ar opsiynau pellach i gefnogi cwmnïau yn ystod y pandemig, a helpu iddyn nhw baratoi ar gyfer bywyd wedi i gyfnod pontio’r UE ddod i ben.”