Newidiadau pwysig i reolau rhoi gwaed
Landmark changes to blood donation rules
Mae Cymru wedi cymryd penderfyniad pwysig i godi’r cyfyngiadau sy’n atal Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT+) rhag rhoi gwaed.
Fel rhan o gytundeb rhwng y pedair gwlad, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn dileu’r cyfyngiadau hyn, a osodwyd gan SABTO (Pwyllgor Cynghori y DU ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau) sydd wedi atal llawer o bobl LGBT+ rhag rhoi gwaed. Bydd y newid yn dod i rym yn ystod yr haf 2021.
Bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn paratoi ar gyfer codi’r cyfyngiadau, gan newid rhai o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn i roddwyr gwaed er mwyn symud i ffwrdd oddi wrth waharddiad cyffredinol, gan ddechrau defnyddio asesiadau sy’n asesu’r rhoddwr fel unigolyn, waeth beth yw ei ryw, ei rywedd, neu ei gyfeiriadedd rhywiol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Bydd y cyhoeddiad hwn yn cael gwared ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl yn y gymuned LGBT+ wedi ei wynebu. Mae llawer o bobl wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd y sefyllfa hon. Dw i’n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyflawni’r nod hwn sydd wedi bod yn uchelgais gennym ers amser hir.
“Mae ein harbenigwyr a’n systemau meddygol wedi gwella’n fawr a bellach gallan nhw ddarparu sicrwydd sy’n golygu y gallwn gael gwared ar yr hen rwystrau sydd wedi golygu nad oedd yn bosibl i rai pobl LGBT+ roi gwaed.
“Erbyn yr haf 2021, bydd y systemau newydd yn gwbl weithredol, a bydd y rheini’n systemau cadarn, diogel a chynhwysol.”
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig iawn, a dw i’n ei groesawu’n fawr. Mae rhoi gwaed yn gallu newid bywydau pobl, ac mae’n iawn bod pawb sy’n gallu rhoi gwaed yn cael y cyfle i helpu eraill. Mae hwn yn ddiwrnod da i’r gymuned LGBT+ ac yn ddiwrnod da i’r gwasanaeth gwaed sy’n dibynnu ar ei roddwyr.”
Wrth drafod y cyhoeddiad, dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae’r newidiadau hyn yn dilyn nifer o flynyddoedd o waith caled gan grŵp llywio FAIR (O blaid Asesu Risg Unigoledig), sef menter gydweithredol ar draws y DU gyfan rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol ac academyddion, ac y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi chwarae rôl bwysig ynddi.
“Er nad gwasanaethau gwaed sy’n gyfrifol am bennu’r rheolau ynghylch pwy all roi gwaed a phwy all beidio, rydym wrth ein boddau bod gwaith y grŵp wedi arwain at ddatblygu cyfres o reoliadau newydd a fydd yn ein galluogi ni i groesawu mwy o roddwyr i’n clinigau.
“Mae gwaith i’w wneud o hyd i roi’r rheoliadau newydd hyn ar waith, ond rydym yn falch iawn bod y newidiadau hyn wedi cael eu cyhoeddi, ac rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu rhoddwyr newydd i’n clinigau yn 2021.”