Cynllun Gweithredu Allforio Newydd yn hollbwysig i economi Cymru
New Export Action Plan crucial to Welsh economy
Bydd Cynllun Gweithredu Allforio newydd Llywodraeth Cymru yn darparu y rhaglen fwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr o gymorth allforio sydd wedi ei sefydlu yng Nghymru.
Mae nwyddau a gwasanaethau o Gymru wedi eu hallforio yn fyd-eang ers amser, gan helpu Cymru i ddod yn wlad fasnachu gref a llwyddiannus. Rhwng 2015 a 2019, tyfodd gwerth nwyddau o Gymru yn gyflymach na’r DU yn gyfan, ac yn 2019, cyrhaeddodd £17.8bn.
Fodd bynnag, mae’r trafodaethau parhaus ar ddyfodol y berthynas rhwng y DU a’r UE wedi llesteirio gallu busnesau i gynllunio a pharatoi yn llawn.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, bod hyn wedi gosod pwysau enfawr ar gwmnïau sydd eisoes yn delio gydag effeithiau economaidd y coronafeirws.
I gefnogi cwmnïau drwy’r cyfnod heriol hwn, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Allforio heddiw fydd yn cynnig cefnogaeth eang i allforwyr o Gymru i adfer ac ail-adeiladu.
Bydd y cynllun yn cynnig cymorth ar unwaith i fusnesau, ac yn ail-ddarganfod ac addasu cymorth i fodloni anghenion allforio busnesau wedi Covid a diwedd Cyfnod Pontio yr UE.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: “Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i’r byd, a dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y nwyddau a’r gwasanaethau gwych sy’n cael eu hanfon ledled y byd.
“Mae’r cynnydd hwn, sydd wedi gweld allforion o Gymru yn cynyddu’n gynt na’r DU yn gyfan, wedi dilyn blynyddoedd o waith caled gan Lywodraeth Cymru.
“Rydyn ni wedi gweithio’n agos â chwmnïau o Gymru i helpu iddynt hybu eu hallforion a datblygu eu masnach rhyngwladol, ac mae’n waith sydd wedi’i gryfhau gan ein Cynllun Gweithredu Economaidd a’n Strategaeth Ryngwladol. Fel gwlad, rydyn ni wedi gweld a mwynhau manteision economaidd ein llwyddiant ar y cyd yn y maes hwn.
“Fodd bynnag, mae’n amlwg bod y pandemig a’r trafodaethau maith ar ddyfodol y berthynas â’r UE wedi cael effaith ar y sefyllfa, gydag ystadegau dros dro yn dangos bod gwerth allforio nwyddau o Gymru ar gyfer y 12 mis hyd at ail chwarter 2020 i lawr 12.5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
“Heddiw dwi’n lansio fy Nghynllun Gweithredu Allforio newydd, sydd yn fy marn i y cynllun mwyaf cynhwysfawr ac uchelgeisiol erioed yng Nghymru i helpu ein busnesau allforio i adfer ac ail-adeiladu. Cafodd ei ddatblygu gyda’n partneriaid, ac mae wedi ei gynllunio’n benodol i sicrhau bod ein busnesau allforio mewn sefyllfa dda i wynebu heriau heddiw ac yfory.”
Mae’r Cynllun Gweithredu Allforio yn amlinellu pwyslais Llywodraeth Cymru ar:
- Adddasu rhaglenni presennol o gymorth allforio fel eu bod yn cyd-fynd â ffyrdd newydd o weithio ag anghenion newidiol busnesau;
- Darparu cyngor a chefnogaeth i allforwyr o Gymru a helpu iddynt reoli diwedd y cyfnod pontio â’r UE;
- Cyrraedd mwy o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig y busnesau hynny sydd â’r gallu i allforio;
- Creu capasiti a gallu ar gyfer allforio i sicrhau bod gan fusnesau o Gymru y sgiliau a’r hyder iawn i fod yn allforwyr llwyddiannus;
- Datblygu ymyraethau cefnogi allforio newydd, gan gynnwys treialu menter Clwstwr Allforio newydd i hwyluso rhwydweithiau cryf o gymorth allforio
- Darparu gweithgarwch tramor mewn marchnadoedd allweddol a pharu y cyfleoedd hyn gyda sectorau ble y mae gan Gymru gryfderau arbennig o fewn sector.
Mae Hwb Allforio newydd ar-lein hefyd ar gael i fusnesau. Mae hwn yn adnodd pwysig i gwmnïau o Gymru ac yn cynnig gwybodaeth fyw ar ystod o faterion allforio. Bydd hyn yn cynnal allforwyr presennol a rhai newydd i ddatblygu a mynd i’r afael ag unrhyw heriau y maent yn eu hwynebu yn yr amgylchedd fasnachu yn y dyfodol.
Hefyd, cafodd cyfres o ‘ymweliadau rhithwir â marchnadoedd allforio’ eu trefnu ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon i sicrhau y gall busnesau o Gymru barhau i gyfarfod â chwsmeriaid posibl o fewn marchnadoedd targed.