English icon English
Wales Germany

"Mae Cymru yn yr Almaen 2021 yn ddathliad o’n cysylltiadau hanesyddol na fydd yn gwanhau oherwydd Brexit." Y Prif Weinidog Mark Drakeford

'Wales in Germany 2021' is a celebration of our historic ties that won’t falter because of Brexit. First Minister Mark Drakeford

Ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gynlluniau ar gyfer blwyddyn o weithgareddau i ddathlu a chryfhau’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a’r Almaen.

 

Bydd ‘Cymru yn yr Almaen 2021’ yn flwyddyn o weithgareddau â themâu i dynnu sylw at y berthynas rhwng Cymru a’r Almaen, gyda digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Bydd y digwyddiadau yn amlygu rhwydweithiau busnes, cysylltiadau diwylliannol a phartneriaethau eraill rhwng y ddwy wlad. Bydd y digwyddiadau hyn yn dechrau ymgais o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i godi proffil rhyngwladol Cymru a chynyddu cydweithredu ar ôl ymadael â’r UE.

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn dechrau’r flwyddyn o ddathliadau drwy gynnal cyfarfod rhithwir â Llysgennad yr Almaen i’r DU, Herr Andreas Michaelis, ddydd Llun 11 Ionawr.

Gan groesawu blwyddyn ‘Cymru yn yr Almaen 2021’, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae gennym eisoes gysylltiadau agos â’r Almaen, ac mae’r cysylltiadau hyn yn parhau i gryfhau. Yn awr, yn fwy nag erioed, rydyn ni am ddathlu’r rhain a sicrhau eu bod yn ffynnu. Nid yw Brexit yn diffinio ein gwlad, ac rydyn ni wastad wedi bod yn wlad groesawgar a rhyngwladol, sy’n edrych tuag allan.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni’n dechrau 2021 drwy ddathlu’r cysylltiadau hanesyddol agos rhwng Cymru a’r Almaen. Mae’n ddathliad nid yn unig o’n cysylltiadau economaidd â’n cyfaill Ewropeaidd, ond hefyd o ddiwylliant a chysylltiadau byd-eang. Mae ein dwy wlad bob amser wedi gweithio’n agos gyda’i gilydd mewn sawl maes megis gwyddoniaeth, addysg ac arloesi yn ogystal â diwylliant, twristiaeth a’r celfyddydau. Ein nod yw sicrhau y bydd y cysylltiadau agos hyn yn parhau i ffynnu.”

Fel rhan o ddathliadau ‘Cymru yn yr Almaen 2021’, bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt yn cymryd rhan mewn digwyddiad panel rhithwir ag Almaenwyr yng Nghymru, ynghyd â Helga Rother-Simmonds, Conswl Anrhydeddus yr Almaen yng Nghymru, y Llysgennad a’r Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, ddydd Llun 11 Ionawr.

Gorffennodd y Prif Weinidog drwy ddweud:

“Mae Cymry di-rif wedi ymgartrefu yn yr Almaen ac mae Almaenwyr di-rif wedi dewis ymgartrefu yma yng Nghymru. O ddiffoddwyr tân Ravensburg i gymunedau Rhondda Cynon Taf, mae trefi a dinasoedd ar draws ein gwledydd wedi’u gefeillio ac mae cyfeillgarwch wedi’i feithrin. Bydd y cysylltiadau hyn yn ffynnu, ac wrth i Gymru ddechrau taith newydd ar y llwyfan byd-eang, rydyn ni wedi ei gwneud yn glir ein bod yn agored ar gyfer busnes, ein bod yn croesawu cyfleoedd newydd a bod edau ein cyfeillgarwch yn gryf o hyd.

“Er ein bod ni wedi gadael yr UE, ni fydd y cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol rhwng Cymru a’n partneriaid Ewropeaidd byth yn cael eu torri.”

Diwedd