Newyddion
Canfuwyd 2235 eitem, yn dangos tudalen 8 o 187

Prosiect band eang dan arweiniad y gymuned yn Llanfihangel-y-fedw yn estyn cyrhaeddiad band eang cyflymach diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru
Mae cynllun band eang dan arweiniad y gymuned mewn pentref gwledig rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi llwyddo i estyn cysylltiadau band eang cyflymach, mwy dibynadwy i ragor o aelodau byth o'r gymuned leol, diolch i gyllid gwerth £525,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cael y Pethau Pwysig yn eu lle - lansio cronfa twristiaeth £5 miliwn
Heddiw, mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi lansio cronfa dwristiaeth Y Pethau Pwysig gwerth £5m ar gyfer 2023-2025.

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth: Gweinidog yr Economi ym Mhrifysgol De Cymru i gwrdd â menywod sy’n arwain gwyddoniaeth [copy]
Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth trwy ymweld â labordy fforensig Prifysgol De Cymru (USW) i gwrdd â’r nifer gynyddol o fenywod sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg (STEM) ac i annog mwy o fenywod a merched i ystyried gyrfa yn y gwyddorau.

Datganiad ar y cyd am y Cynllun Argyfwng Bysiau
Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chymdeithas Bysiau Cymru

Dathlu Dydd Miwsig Cymru: £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad
Wrth i gigs a digwyddiadau gael eu cynnal ar draws y wlad ar wythfed Dydd Miwsig blynyddol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol fel bod pobl yn mwynhau hyd yn oed mwy o gerddoriaeth.

Llywodraeth Cymru yn darparu £300,000 i gefnogi’r gwaith cymorth yn Nhwrci a Syria
Heddiw (dydd Iau, 9 Chwefror) mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi cyhoeddi £300,000 o gymorth ariannol i roi cymorth brys a chyflym i bobl yr effeithiwyd arnynt gan daeargrynfeydd dinistriol yn ne Twrci a gogledd-orllewin Syria.

Rhaid i gyllideb Gwanwyn y DU roi mwy o arian i wasanaethau cyhoeddus
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi annog Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddefnyddio cyllideb y Gwanwyn fis nesaf i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus ac ymateb i bwysau chwyddiant, cyflogau a chostau.

Bron i ddwy ran o dair o bobl yn anghytuno â chosbi plant yn gorfforol
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi croesawu canfyddiadau arolwg o’r ffordd mae agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru wedi newid ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd

Cyllid newydd yn cael ei ddyfarnu i brosiectau i wella sgiliau yn Sector Creadigol Cymru
- Bydd £1.5 miliwn yn cael ei rannu rhwng 17 prosiect
- Bydd y prosiectau'n helpu'r sector i ddatblygu'r sgiliau cywir
- Bydd y cyllid yn sicrhau bod sector creadigol Cymru yn parhau i ffynnu

Dewch i gwrdd â Jinx, y ci bioddiogelwch ar ymgyrch i ddiogelu adar môr sydd mewn perygl yng Nghymru
Cyfarfu'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, â Jinx y ci bioddiogelwch heddiw, sy’n gyfrifol am ymgyrch arbennig i ddiogelu adar môr Cymru.

Cynllun Llywodraeth Cymru’n helpu miloedd o bobl ifanc yng Nghymru i gael gwaith
- Gweinidog yr Economi’n cyhoeddi’r adroddiad blynyddol cyntaf ar y Gwarant i Bobl Ifanc, y cynllun blaengar sy’n helpu pobl ifanc i gael gwaith ac sy’n lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc
- Mae’r Gweinidog yn cadarnhau rhagor o help i’r bobl ifanc sydd ar raglenni Twf Swyddi Cymru +, ac sy’n ei chael hi’n anodd yn yr argyfwng costau byw. Yn cynnwys costau teithio a phrydau am ddim.