Cynlluniau peilot ar waith i wneud pleidleisio yn fwy hygyrch
Trials to make voting more accessible begin
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag elusen colli golwg i wella profiadau pleidleisio pobl anabl drwy lansio cyfres o gynlluniau peilot pleidleisio hygyrch yng Nghymru.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) adroddiad a oedd yn dangos mai dim ond chwarter o bobl ddall a oedd yn teimlo bod y system bresennol yn eu galluogi i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
I ymateb i hynny, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi cyllid gwerth £25,000 ar gyfer cynlluniau peilot a fydd yn archwilio ffyrdd o wneud gorsafoedd pleidleisio yn fwy hygyrch cyn etholiad y Senedd yn 2026.
Yn ystod y digwyddiadau, bydd Llywodraeth Cymru, RNIB Cymru a gweinyddwyr etholiadol yn profi amrywiaeth o gyfarpar gyda phobl ddall a rhannol ddall i ganfod datrysiadau ymarferol, costeffeithiol a dwyieithog.
Mae'r cynlluniau peilot, a ddechreuodd yr wythnos hon yng Nghaerdydd, yn gwerthuso amryw o gyfarpar pleidleisio, gan gynnwys y canlynol:
- Y Ddyfais Bleidleisio Gyffyrddadwy bresennol, sy'n dempled plastig sy'n ffitio dros bapurau pleidleisio
- Gorchudd papur pleidleisio cyffyrddadwy newydd, sef templed cerdyn sydd wrthi'n cael ei brofi yn yr Alban
- Cyfarpar clywedol i roi cymorth o ran yr wybodaeth ar y papur pleidleisio
- Llinell ffôn ffug i roi cymorth o ran yr wybodaeth ar y papur pleidleisio
Mae RNIB Cymru yn gweithio gyda chymdeithasau colli golwg lleol, gan gynnwys Sight Life a Vision Support, i ddenu unigolion ledled Cymru i gymryd rhan. Mae pob digwyddiad yn cynnwys chwech i wyth o unigolion a fydd yn profi ac yn gwerthuso'r gwahanol gyfarpar pleidleisio.
Dywedodd un o'r rhai sy'n cymryd rhan, Hannah Rowlatt:
"Gydag ychydig o gynllunio a rhoi sylw i faterion hygyrchedd, mae cymaint o agweddau ar fy mywyd y galla i eu gwneud yn hollol annibynnol, o sgrolio ar y cyfryngau cymdeithasol i fynd i'r siopau i ddewis dillad newydd. Ond mae pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn rhywbeth nad yw wir yn hygyrch i mi nac i gymaint o bobl ddall a rhannol ddall eraill.
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r gwaith i ddod o hyd i gyfarpar a allai ei gwneud hi'n haws i filoedd o bobl bleidleisio. Drwy gynnwys pobl ddall a rhannol ddall yn y broses, mae'n fwy tebygol y byddwn ni'n dod o hyd i ffordd o bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol sydd wir yn gweithio."
Mae'r digwyddiadau cyntaf hyn, a gynhelir hefyd yn Wrecsam, yn canolbwyntio ar golli golwg ac yn cynrychioli'r cam cyntaf. Mae cynlluniau peilot pellach wedi'u cynllunio dros y flwyddyn nesaf a fydd yn archwilio datrysiadau i bleidleiswyr sydd ag anghenion eraill o ran hygyrchedd.
Wrth fynychu'r digwyddiad cyntaf yng Nghaerdydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
"Mae canfyddiadau'r RNIB, sy'n nodi mai dim ond hanner y pleidleiswyr dall a rhannol ddall oedd yn fodlon â'u profiad o bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2024, yn dangos bod hwn yn fater sydd angen ei gymryd o ddifri'. Rwy'n falch ein bod yn gweithredu ac rwy'n ddiolchgar iawn am gymorth RNIB Cymru a Chynghorau Caerdydd a Wrecsam i gynnal y cynlluniau peilot hyn.
"Dylai pob pleidleisiwr gael yr hawl i fwrw ei bleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol, ac mae'r cynlluniau peilot hyn yn dangos ein hymrwymiad i wneud etholiadau yng Nghymru yn fwy hygyrch a chynhwysol i bob pleidleisiwr."
Dywedodd Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman:
"Ni ddylai unrhyw un deimlo'n nerfus neu'n chwithig wrth gerdded i mewn i orsaf bleidleisio, yn ansicr a fyddan nhw'n gallu pleidleisio. Yn anffodus, o dan y system bresennol, mae'r mwyafrif o bobl ddall yn cael eu gorfodi i rannu eu pleidlais, naill ai ag aelod o'r teulu, ffrind neu staff yr orsaf bleidleisio. Gall pleidleiswyr dall a rhannol ddall deimlo bod y system yn eu bychanu ac yn eu gadael i lawr, ac mewn rhai achosion, nid ydyn nhw hyd yn oed yn siŵr dros bwy y gwnaethon nhw bleidleisio.
"Rydyn ni mor falch felly fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bryderon pobl ddall a rhannol ddall ac yn eu cynnwys wrth ddod o hyd i ddatrysiadau. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydyn ni'n hyderus y gallwn ni wneud yr etholiadau sydd ar ddod yng Nghymru y rhai mwyaf hygyrch eto i bobl ddall a rhannol ddall."