Dod o hyd i ddeintydd y GIG yng Nghymru yn haws gyda phorth digidol newydd
Finding an NHS dentist in Wales easier with new digital portal
Mae gwasanaeth digidol newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i helpu i wneud y broses o ddod o hyd i ddeintydd y GIG yn haws.
Mae'r Porth Mynediad Deintyddol yn darparu system ganolog i bobl gofrestru eu diddordeb mewn deintyddiaeth y GIG ac i fyrddau iechyd ddyrannu lleoedd ar gyfer triniaeth ddeintyddol rheolaidd y GIG.
Bydd y gwasanaeth yn rhoi darlun clir ynghylch maint y galw am wasanaethau deintyddol y GIG a bydd hefyd yn golygu na fydd angen i bobl gysylltu â sawl deintyddfa wrth geisio dod o hyd i ddeintydd y GIG.
I wneud cais drwy'r Porth Mynediad Deintyddol:
- Rhaid i'r unigolyn fod yn 16 oed neu'n hŷn (gall rhieni/gwarcheidwaid wneud cais dros blant o dan 16 oed)
- Ni ddylai'r unigolyn fod wedi cael triniaeth ddeintyddol rheolaidd y GIG yn ystod y pedair blynedd diwethaf
- Rhaid bod yr unigolyn yn byw mewn cyfeiriad yng Nghymru am fwy na chwe mis o'r flwyddyn neu ei fod wedi cofrestru â phractis meddyg teulu yng Nghymru.
Wrth i'r gwasanaeth newydd fynd yn fyw ledled Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Nid yw cael gafael ar ddeintyddiaeth y GIG yn y lle rydyn ni, na'r cyhoedd, eisiau iddo fod.
"Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu pobl, nad ydyn nhw efallai wedi gweld deintydd ers tro, i gael apwyntiadau rheolaidd y GIG.
"Ers i'r cynllun treialu ddechrau ym Mhowys, mae miloedd o bobl eisoes wedi cael eu hychwanegu at y rhestr a byddan nhw'n cael eu dyrannu i ddeintyddion y GIG fel y daw apwyntiadau ar gael."
Dywedodd Warren Tolley, cyfarwyddwr deintyddol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sef yr ardal gyntaf yng Nghymru i dreialu'r porth newydd: "Mae ein profiadau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae'r rhyngwyneb yn hawdd iawn ei ddefnyddio, gan alluogi pobl i nodi'u manylion yn gyflym. Mae'r swyddogaeth weinyddol hefyd wedi gwneud y broses o ddyrannu pobl i bractis deintyddol yn gyflym ac yn hawdd."
Bydd y porth mynediad deintyddol newydd yn cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Dywedodd Sam Hall, cyfarwyddwr gwasanaethau digidol gofal sylfaenol, gofal cymunedol ac iechyd meddwl Iechyd a Gofal Digidol Cymru: "Mae datblygu'r Porth Mynediad Deintyddol yn golygu bod gennym bellach system genedlaethol sy'n gallu rhoi darlun cliriach o'r galw am wasanaethau deintyddol rheolaidd GIG Cymru.
"Mae galluogi pobl i gofrestru eu hunain, neu bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, gan ddefnyddio un system ar-lein yn gwneud y broses o gofrestru diddordeb mewn cael gofal gan ddeintydd y GIG yn fwy syml ac yn decach i bawb yng Nghymru."
Ychwanegodd Jeremy Miles: "Bydd casglu'r wybodaeth hon at ei gilydd mewn un man yn creu manteision sylweddol. Bydd yn galluogi byrddau iechyd i ddeall yn glir yr angen yn eu hardal a'u galluogi i reoli sut y caiff pobl eu dyrannu i bractisau deintyddol fel y daw lleoedd ar gael.
"I'r cyhoedd, bydd yn cael gwared â'r angen iddyn nhw orfod cysylltu â sawl practis, gan sicrhau system o ran mynediad sy'n decach i bawb."
Dylai'r rhai sydd eisoes wedi cofrestru â phractis deintyddol y GIG gysylltu â'r practis yn uniongyrchol ar gyfer apwyntiadau deintyddol rheolaidd neu mewn argyfwng.
Os nad oes gennych chi ddeintydd GIG Cymru ar hyn o bryd a bod angen arnoch:
- Triniaeth ddeintyddol frys, ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
- Triniaeth ddeintyddol rheolaidd, gallwch wneud cais ar-lein am le drwy'r Porth Mynediad Deintyddol. Os ydych yn gymwys ac yn gwneud cais, bydd practis deintyddol yn cysylltu â chi pan ddaw apwyntiad ar gael.