Gwaith Cam 2 i ddechrau ar Bont Menai
Phase 2 works to begin on Menai Suspension Bridge
Disgwylir i gam nesaf y gwaith o adfer Pont Menai yn llawn ddechrau ar 3 Mawrth.
Bydd gwaith cam dau yn cynnwys paentio o dan y dec, uwchraddio goleuadau a rhai atgyweiriadau strwythurol terfynol i baratoi ar gyfer 200 mlwyddiant y bont yn 2026.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y bont yn parhau ar agor gyda mesurau rheoli traffig ar waith i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar drigolion lleol. Bydd y cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell hefyd yn cael ei ailgyflwyno yn ystod y cyfnod hwn i ‘ryddhau’ capasiti ar y bont fel y gellir gosod llwyfannau gwaith dros dro a chyfarpar angenrheidiol i gyflawni'r gwaith.
Cynghorir modurwyr i gadw at y cyfyngiad pwysau a chynllunio ymlaen llaw.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu pellach ar gymunedau ar ddwy ochr y bont. Yn dilyn adborth, gwnaethom oedi cam dau i leihau'r effaith ar fusnesau dros gyfnod y Nadolig a chynyddu gwydnwch yn ystod cyfnodau o dywydd garw. Roedd hyn yn fuddiol yn ystod stormydd diweddar pan gafodd Pont Britannia ei chau yn llawn.
“Byddem hefyd yn disgwyl tywydd gwell ar gyfer cam dau i barhau o fis Mawrth ymlaen.
“Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r rhai yr effeithir arnynt am eu hamynedd wrth inni wneud y paratoadau terfynol i adfer y bont i'w chyflwr gorau mewn pryd ar gyfer ei 200 mlwyddiant ym mis Ionawr 2026.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU