
Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025: Disgyblion Cymru yn dod yn 'sgam-wybodus'
Safer Internet Day 2025: Welsh pupils become ‘scam-smart'
Mae disgyblion 7-11 oed yn Ysgol Gynradd Griffithstown ym Mhont-y-pŵl yn cael eu dysgu sut i adnabod arwyddion sgamiau ar-lein, megis cynigion sy'n 'rhy dda i fod yn wir' neu geisiadau am wybodaeth bersonol.
Mae ymgyrch Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y Deyrnas Unedig eleni yn mynd i'r afael â'r sgamiau y mae plant a phobl ifanc yn fwyaf tebygol o ddod eu traws - negeseuon e-bost gwe-rwydo, sgamiau wrth chwarae gemau, a blacmel rhywiol ar-lein am arian.
Heddiw, dydd Mawrth 11 Chwefror, i nodi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle â disgyblion a staff Ysgol Gynradd Griffithstown i gael gwers ar ddiogelwch ar-lein. Roedd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn dysgu sut i adnabod y sgamiau ar-lein mwyaf cyffredin, gan ddefnyddio adnoddau diogelwch ar-lein ar Hwb.
Dywedodd Lynne Neagle:
"Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn gyfle gwych i siarad â phobl ifanc am bwysigrwydd diogelwch ar-lein ac rwy' mor falch o weld ysgolion ledled Cymru yn cymryd rhan.
"Trwy wrando ar brofiadau a phryderon pobl ifanc, rydyn ni mewn gwell sefyllfa i ddeall yr heriau maen nhw'n eu hwynebu a pha gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ganfod eu ffordd drwy'r byd ar-lein - mewn modd diogel a chyfrifol."
Ychwanegodd Mr Blackburn, Pennaeth Ysgol Gynradd Griffithstown:
"Mae ein dysgwyr yn fwyfwy ymwybodol o'r peryglon ar-lein, ac mae mentrau fel Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn helpu i atgyfnerthu pa mor bwysig yw bod yn wyliadwrus ac yn wybodus.
"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn rhan o'r sgwrs fyd-eang hon."
Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y Deyrnas Unedig, sy'n cydlynu digwyddiadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ledled y DU, wedi cynhyrchu pecynnau addysg i ysgolion. Mae'r adnoddau dwyieithog hyn, sy'n canolbwyntio ar thema Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni, sef sgamiau ar-lein, bellach ar gael ar Hwb.
Maen nhw'n cynnwys awgrymiadau y gellir eu rhannu gyda theuluoedd.