Blwyddyn ers agor Pont Dyfi
Dyfi Bridge marks first anniversary
Mae blwyddyn ers agor pont newydd Dyfi y mis hwn, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r gymuned, busnesau a phobl leol sy'n teithio ar hyd yr A487 yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae'r prosiect gwerth £46m yn cynnwys traphont 725m a adeiladwyd i gymryd lle'r bont o'r 19eg ganrif nad oedd wedi'i chynllunio i gario'r traffig presennol, ac yn aml roedd ar gau oherwydd llifogydd gan arwain at ddargyfeirio 32 milltir.
Mae'r llwybr 1.2km newydd yn sefyll uwchben y gorlifdir, yn gwella diogelwch, ac wedi'i gynllunio i bara am 120 o flynyddoedd. Mae hefyd yn cynnwys llwybr beicio a cherdded gwell sydd wedi'i integreiddio'n llawn â'r bont newydd yn ogystal â mwy o ddiogelwch rhag llifogydd ar gyfer busnesau a chartrefi cyfagos. Mae ysgol leol ym Machynlleth, ac aeth ei disgyblion i'r agoriad, sydd wedi gweld y manteision ers i'r bont agor.
Dywedodd Dafydd Jones, Prifathro Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth:
"Mae'r bont newydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddisgyblion yr ysgol. Oherwydd ei bod yn agos at yr afon, mae'r ardal hon yn dueddol o ddioddef llifogydd sy'n golygu na all disgyblion gyrraedd yr ysgol yn aml ar ddiwrnodau pan fo glaw trwm a lefelau afonydd yn uchel. Ers agor y bont, nid yw hyn wedi digwydd er bod llifogydd mawr wedi bod yn yr ardal. Mae'r bont wedi caniatáu i gludiant i'r ysgol barhau fel arfer, gan olygu bod plant yn gallu mynychu'r ysgol a pheidio â cholli gwersi."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae pont newydd Dyfi yn strwythur trawiadol sydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ei blwyddyn gyntaf. Mae'n wych clywed sut mae wedi gwneud gwahaniaeth i Ysgol Bro Hyddgen, sy'n golygu nad oes tarfu ar ddisgyblion bellach.
"Mae'r bont yn helpu i gysylltu cymunedau a busnesau a chadw cyswllt hanfodol rhwng y Gogledd a'r De, ac mae hefyd yn cynnig cyfleoedd cerdded a beicio mewn lleoliad gwych."