English icon English
Luke and Emma-2

Manteisio ar y Bysgodfa gyntaf yng Nghymru ar gyfer Tiwna Asgell Las

Reeling in the benefits off Wales’ first Bluefin Tuna Fishery

Pysgota o'r radd flaenaf ar arfordir gorllewin Cymru.

Cafodd trwyddedau eu rhoi yn 2024 ar gyfer y bysgodfa hamdden gyntaf erioed yng Nghymru ar gyfer tiwna glas. Daeth i'r amlwg fod cynnydd yn nifer y Tiwna Asgell Las yn Nyfnderoedd y Môr Celtaidd oddi ar Orllewin Cymru, a roddodd hynny hwb i fusnesau siartro lleol.

Cafodd y bysgodfa ei hagor rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2024 ac yn ystod y cyfnod hwnnw, rhoddwyd trwyddedau i wyth cwch. Adroddwyd bod 83 o bysgod tiwna unigol wedi'u dal a'u rhyddhau, ac nad oedd unrhyw un ohonynt wedi marw. Roedd y pysgod hynny rhwng 4 troedfedd a 9 troedfedd o hyd.
Cafodd y bysgodfa hamdden ei hagor i gychod siartro er mwyn sicrhau'r buddion economaidd-gymdeithasol mwyaf posibl.
Roedd Ocean Odyssey oedd un o'r cychod siartro a gafodd drwydded, ac mae'r capten Luke Evans yn esbonio sut y gall pobl fwynhau pysgota o'r radd flaenaf oddi ar arfordir gorllewinol Cymru: “Mae'n gyfnod cyffrous i Gymru gan ei fod yn gyfle euraidd i arddangos y bywyd gwyllt sydd gennym a'r ymdrechion rydyn ni'n eu gwneud i warchod a dysgu mwy am y rhywogaethau hyn. Mae wedi bod yn fraint cael targedu'r pysgod godidog hyn a manteisio i'r eithaf ar y bysgodfa hon yng Nghymru, sy'n un o'r rhai gorau yn y byd.

“Mae cadwraeth yn bwysig i bob un o'r capteiniaid ac mae'r ffaith na fu unrhyw diwna farw yn 2024 yn tystio i hynny. Gan weithio gyda fy ngwraig Emma, rydyn ni wedi gallu croesawu pysgotwyr o bob cwr o'r DU i wneud yn fawr o'r bysgodfa hon, sydd ymhlith y goreuon yn y byd. Rydyn ni wedi gallu dal, tagio a rhyddhau siarcod glas yn y bore ac yna targedu'r tiwna mawr asgell las yn y prynhawn. Ac wrth inni wneud hynny, rydyn ni wedi cael mwynhau gweld heidiau o forfilod asgellog a dolffiniaid yn rhuthro i fwydo ar y tiwna. Os nad yw'r llif enfawr o adrenalin sy'n dod wrth fachu tiwna enfawr yn ddigon, mae'r bywyd gwyllt yn ychwanegu lefel arall at yr holl brofiad. Mae gweld haid anferth o diwna yn bwydo ymhlith morfilod a dolffiniaid, a huganod yn plymio i'r môr, yn wledd i'r llygaid, ac yn rhywbeth sy'n fy rhyfeddu bob tro.

Mae'n anhygoel meddwl bod hyn i gyd i'w weld ychydig oddi ar arfordir Cymru. Rydyn ni'n edrych 'mlaen at weld yr un peth eto yn 2025 wrth inni fynd ati mewn ffordd gyfrifol i wneud y mwyaf o'r bysgodfa hon. Mae cael pysgota am y tiwna yn golygu ein bod yn gallu estyn ein tymor pysgota arferol yn Nyfnderoedd y Môr Celtaidd ymhell i mewn i fis Rhagfyr.

“Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer 2025 yn barod. Rydyn ni am fynd ati i warchod siarcod ac rydyn ni'n edrych 'mlaen at ychwanegu pysgota tiwna at yr hyn rydyn ni'n ei gynnig ar ein teithiau. Bydd hyn oll yn cyfrannu at ddealltwriaeth wyddonol werthfawr o'r pysgod mawreddog hyn ac yn cefnogi'n heconomi leol yng Ngorllewin Cymru.”

Yn 2024, dim ond i gychod siartro, ar sail dal a rhyddhau, yr oedd y bysgodfa ar agor, ac nid oedd pysgotwyr yn cael dod â'r tiwna ar fwrdd y cwch. Roeddent yn cael eu mesur wrth ochr y cwch er mwyn lleihau achosion o farw'n ddamweiniol.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: “Wrth inni weld mwy o Diwna Asgell Las yn ein dyfroedd, mae'n amlwg bod y ffaith bod y stoc yn ymadfer, a hefyd y newid yn yr hinsawdd, yn cael effaith ar ddosbarthiad y rhywogaeth eiconig hon, a byddwn yn ceisio addasu ac ymateb i'r newidiadau hynny.

“Rwy'n falch bod cyflwyno'r bysgodfa hamdden y llynedd wedi bod yn llwyddiant mawr. Byddwn yn rheoli'r rhywogaeth eiconig hon yn unol â'r rhwymedigaethau rhyngwladol sydd arnon ni, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithredu mewn ffordd ragofalus a fydd yn gwneud y mwyaf o fudd cymdeithasol ac economaidd posibl y rhywogaeth. Rydyn ni'n edrych 'mlaen at gyhoeddi rhagor o gynlluniau ar gyfer tymor 2025.”