English icon English
Teachers at Ysgol David Hughes - Pontio-2

Cynllun i hybu niferoedd athrawon sy'n siarad Cymraeg nawr ar agor

Scheme to boost numbers of Welsh speaking teachers now open

Nod rhaglen 'Cynllun Pontio', sydd nawr ar agor ar gyfer ceisiadau yw denu athrawon sy'n siarad Cymraeg i ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Mae'n cefnogi siaradwyr Cymraeg sydd ar hyn o bryd yn addysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, athrawon mewn ysgolion y tu allan i Gymru, ac athrawon sydd wedi bod allan o'r proffesiwn am bum mlynedd neu fwy, i fynd yn athrawon uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Mae'r cynllun poblogaidd, sy'n agor ddydd Llun 10 Chwefror ac yn cau dair wythnos yn ddiweddarach ar 2 Mawrth, wedi bod yn rhedeg ers 2020, ac wedi helpu llawer o athrawon cynradd i gymryd y cam i addysgu mewn ysgolion uwchradd - sy'n dod â manteision i'r unigolion eu hunain ac i'r sector ehangach.

Ar hyn o bryd mae Angharad Pari-Williams yn cymryd rhan yng Nghynllun Pontio ac yn addysgu Daearyddiaeth yn Ysgol David Hughes ar Ynys Môn. Mae hi wedi symud o addysgu cynradd i uwchradd.

Dywedodd:

"Dw i'n mwynhau Cynllun Pontio yn fawr. Dw i mor falch fy mod i wedi ymgeisio. Gan fod maes llafur newydd Cymru mor drawsgwricwlaidd, roedd fy mhrofiad addysgu cynradd yn ddefnyddiol iawn yn fy rôl newydd.

"Yr hyn sy'n gwneud Cynllun Pontio yn unigryw yw eich bod chi'n cael cefnogaeth. Mae yna rywun o gwmpas i siarad â nhw a chael cyngor ganddyn nhw bob amser."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Y cynllun llwyddiannus hwn yw un o'r ffyrdd yr ydyn ni'n datblygu gweithlu addysgu talentog yng Nghymru, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd.

"Dw i'n benderfynol o sicrhau ein bod ni'n cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial a'n bod ni'n parhau i godi safonau.

"Mae datblygu gweithlu i addysgu Cymraeg fel pwnc, a darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yn hanfodol er mwyn creu mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae'n allweddol i weithredu Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)."

Mae Cynllun Pontio yn un o nifer o fentrau, sy'n cael £8m gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a chynyddu nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys:

  • Bwrsari cadw o £5,000 ar gyfer athrawon uwchradd cymwys sy'n addysgu Cymraeg fel pwnc neu'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Arian i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio'r Gymraeg ar lefel Safon Uwch, gan alluogi ysgolion i barhau i ddarparu'r Gymraeg fel pwnc pan fo niferoedd dysgwyr yn isel

  • Arian ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau i ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i ddysgu Cymraeg.