Safonau newydd i wella gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru
New standards to improve maternity and neonatal care in Wales
Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn nodi safonau a disgwyliadau newydd ar gyfer sicrhau gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol diogel ac o ansawdd uchel yng Nghymru.
Bydd disgwyl i fyrddau iechyd roi'r dewis llawn i fenywod beichiog o ran lleoliad geni, hyd yn oed os yw hynny'n golygu defnyddio gwasanaethau y tu hwnt i ffiniau'r bwrdd iechyd.
Bydd menywod beichiog a'u teuluoedd yn cael mwy o lais wrth ddatblygu gwasanaethau i helpu i wella canlyniadau a phrofiadau.
Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol a'r Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol newydd a gyhoeddir heddiw yn amlinellu sut y bydd y GIG yn gwella gwasanaethau ac yn disgrifio'r hyn y mae gwasanaethau da yn ei olygu.
Mae'r datganiad ansawdd wedi'i ddatblygu yn dilyn adolygiadau uchel eu proffil o wasanaethau mamolaeth ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru.
Daw hefyd wrth i dystiolaeth ddangos y ceir cymhlethdodau cynyddol yn ystod beichiogrwydd, a hynny yn sgil y ffaith bod menywod yn fwy tebygol o ddioddef o diabetes, mynegai màs y corff uchel a phroblemau iechyd meddwl amenedigol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
"Mae beichiogrwydd a genedigaeth yn ddigwyddiadau sy'n newid bywydau menywod a'u teuluoedd.
"Mae staff gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn chwarae rhan enfawr yn y profiadau hyn, a bydd ein safonau newydd yn helpu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i ddarparu gofal o ansawdd uchel a gwella canlyniadau i bob menyw.
"Rydyn ni'n gwybod bod adroddiadau annibynnol yn y DU wedi tynnu sylw at bryderon ynglŷn â phrofiadau gwael menywod a babanod.
"Rydyn ni wedi gwrando ar y pryderon a byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog i'r gofal maen nhw'n ei gael. Mae gwrando ar fenywod, rhieni a theuluoedd yn gallu achub bywydau, ac yn gwneud hynny.
"Rydyn ni'n helpu i roi gwelliannau ar waith ledled Cymru, a chefais gyfle wythnos diwethaf i weld sut y bydd ein buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf yn Uned Obstetreg a Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Glangwili yn helpu staff i roi gofal o safon a rhoi'r dechrau gorau posibl i'r babanod mwyaf agored i niwed."
Mae menywod o gefndiroedd ethnig leiafrifol hefyd yn wynebu rhwystrau sylweddol yn ystod beichiogrwydd, sy'n arwain at wahaniaethau negyddol o ran eu canlyniadau iechyd.
Bydd ymwneud â menywod a'u teuluoedd yn allweddol a disgwylir i fyrddau iechyd, drwy gynnal arolygon, ymchwil ac ymgysylltu amser real, wrando ar syniadau, pryderon ac adborth menywod beichiog, a gweithredu arnynt.
Bydd rhaid i fyrddau iechyd hefyd ymwneud â menywod o grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn nodi rhwystrau o ran cael gafael ar gymorth.
Bydd hyn yn helpu i gynnwys pob menyw, pob rhiant a phob teulu i ddatblygu'r gwasanaethau y maent eu heisiau a'u hangen.
Nodiadau i olygyddion
- Quality statements are being developed by the Welsh Government, aligned to the commitment in A Healthier Wales (2018) to define the outcomes and standard we would expect to see in high-quality, patient focused services delivered by Welsh health boards and NHS trusts.
- The Perinatal Engagement Framework has been developed by the Welsh Government sets out the minimum standard for high quality service user engagement across Wales and provides details of the 10 commitment’s health boards are expected to implement, the requirements to meet these commitments and what good looks like.