English icon English

Newyddion

Canfuwyd 2797 eitem, yn dangos tudalen 4 o 234

Welsh Government

Gwaith hanfodol ar yr A465 am bum wythnos

Cynghorir modurwyr y bydd rhan yr A465 rhwng cyffordd yr A470 (Cefn Coed) a'r gylchfan dros dro yn Ystâd Ddiwydiannol Pant ar gau yn llawn am bum wythnos yr haf hwn, er mwyn caniatáu i waith pwysig gael ei gwblhau yn gynt a gyda llai o ansicrwydd i'r cyhoedd sy'n teithio.

RRPF Poster Cym

Lansio canllawiau newydd gyda’r nod o leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol

Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol wedi croesawu set o adnoddau newydd gyda’r nod o leihau’r defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol.

cows in field-2

Adborth y diwydiant ffermio yn siapio newidiadau newydd i brofion TB a gyhoeddir heddiw.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i brofion TB yng Nghymru ar ol iddo gyfarfod a gwrando ar ffermwyr ar draws Cymru.

ChatGPT Cymraeg1

ChatGPT yn dysgu Cymraeg

Partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac OpenAI i wella ChatGPT yn Gymraeg.

Welsh Government

Deddf hanesyddol yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru

Mae democratiaeth yng Nghymru yn cael ei chryfhau heddiw (24 Mehefin) wrth i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r diwygiadau sy’n dod yn gyfraith heddiw yn gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth.

valleys kids pic 4

Ymweliad â’r Cymoedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd Wythnos Gwaith Ieuenctid

I ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle a’r Prif Weinidog Vaughan Gething â phrosiect yn Nhonypandy, Plant y Cymoedd.

grace lewis-2

Unrhyw beth yn bosibl i fenywod mewn peirianneg yng Nghymru

Agorwyd llygaid Grace Lewis gan NASA, cafodd ei chefnogi gan Brifysgol De Cymru ac mae bellach yn brif beiriannydd yn Aston Martin.

Samana Vinyl-2

Cyllid newydd yn gerddoriaeth i glustiau'r diwydiant

Ar Ddiwrnod Cerddoriaeth y Byd [dydd Gwener, 21 Mehefin], mae Cymru Greadigol wedi cyhoeddi £300,000 o gyllid i helpu i dyfu a meithrin y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Jayne Bryant H S landscape

Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar yn lansio canllawiau gwrth-hiliol ar gyfer lleoliadau gofal plant

Mewn digwyddiad lansio yn y Gogledd, croesawyd canllawiau sydd â'r nod o greu diwylliant gwrth-hiliol mewn lleoliadau gofal plant yng Nghymru gan Weinidog y Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant. 

Earthshot-2

Cenedlaethau'r dyfodol yn amlinellu syniadau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, cymerodd 50 o ddisgyblion o 10 ysgol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ran mewn digwyddiad Hinsawdd Ieuenctid yn y Senedd yr wythnos hon.

Welsh Government

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Ebrill a Mai 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw. Dywedodd llefarydd: