Cymru ac Iwerddon yn cydweithio ar wydnwch Môr Iwerddon
Wales and Ireland working together on Irish Sea resilience
Mae Cymru ac Iwerddon yn parhau i gydweithio ar gryfhau gwydnwch o ran croesi Môr Iwerddon rhwng y ddwy wlad.
Dyna oedd neges Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, cyn ymweld ag Iwerddon heddiw (7 Mawrth).
Yn ystod ei ymweliad â Dulyn bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cwrdd â’r Gweinidog Gwladol dros Ffyrdd a Thrafnidiaeth Rhyngwladol, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd Sean Canney. Byddant yn trafod cylch gwaith y tasglu i sicrhau bod porthladdoedd Cymru'n diwallu anghenion y ddwy wlad yn y dyfodol, gan adeiladu ar y profiad o gynnal cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod y tarfu a fu ar wasanaethau ym Mhorthladd Caergybi.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cwrdd â Chymdeithas Allforwyr Iwerddon a Chymdeithas Cludo Llwythi Iwerddon.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd: “Mae Cymru bob amser wedi mwynhau cysylltiadau agos ag Iwerddon, rhywbeth yr ydym yn ei werthfawrogi'n fawr. Fe wnaeth y berthynas hon ein gwasanaethu'n dda yn ystod yr wythnosau anodd pan gaewyd porthladd Caergybi dros dro. Drwy gydweithio â'n holl bartneriaid roeddem yn gallu sicrhau y gallai teithwyr a llwythi symud drwy lwybrau amgen ar yr adeg dyngedfennol honno o'r flwyddyn.
“Rwy'n llwyr werthfawrogi a deall yr effaith a'r pryder y cafodd y cau hwn, yn enwedig adeg y Nadolig. Dyna pam mae'n rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd ar wydnwch y cysylltiadau rhwng ein gwledydd. Rwyf am sicrhau bod y tasglu yn casglu'r holl dystiolaeth a safbwyntiau perthnasol o Gymru ac Iwerddon. Bydd y cylch gorchwyl drafft yn ganolbwynt ar gyfer fy nhrafodaethau gyda'r Gweinidog Canney yn Nulyn.”