English icon English
NHS24Cymru Cy 1-2

Diwrnod o ddathlu yn datgelu faint o ofal sy’n cael ei roi bob awr o’r dydd gan GIG Cymru

Day of celebration reveals scale of NHS Wales' round-the-clock care

Er mwyn dathlu’r miloedd o staff ymroddedig a’r gofal eang sy’n cael ei roi ar draws y Gwasanaeth Iechyd, bydd byrddau iechyd yng Nghymru yn cynnig cyfle i bobl ddod i ddeall mwy am eu gwaith, ac i’w dilyn mewn amser real.

Bydd ‘24 Awr yn GIG Cymru’ yn dangos pa mor amrywiol yw’r gofal iechyd sy’n cael ei roi ar yr un pryd ar draws meddygfeydd, ysbytai, fferyllfeydd a gwasanaethau cymunedol dros gyfnod o ddiwrnod.

Bydd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei chynnal ddydd Gwener 7 Mawrth. Fel y bydd yr ymgyrch yn datgelu, mewn cyfnod o ddim ond 24 awr:

  • Mae practisau meddygon teulu yn ymdrin â 98,000 o alwadau ac yn darparu 75,000 o apwyntiadau
  • Mae fferyllfeydd yn dosbarthu mwy na 231,000 o bresgripsiynau
  • Mae 3,000 o bobl yn ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys
  • Mae nyrsys cymunedol yn gwneud 7,000 o ymweliadau cartref
  • Mae 6,000 o driniaethau deintyddol yn cael eu rhoi gan y GIG
  • Mae 75 o fabanod yn cael eu geni
  • Mae gwasanaethau ambiwlans yn ateb 1,200 o alwadau 999 brys

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd cynnwys amser real yn cael ei roi ar amrywiol sianeli’r cyfryngau cymdeithasol, gan rannu straeon cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy gydol y diwrnod.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“O ofal brys i apwyntiadau rheolaidd, mae’r ymgyrch hon yn dangos bod GIG Cymru yn cyffwrdd â bywydau miloedd o bobl ym mhob cwr o Gymru bob dydd. Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn gofalu am bobl pan fyddan nhw ei angen fwyaf.”

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru:

“Mae’r ffigurau newydd hyn yn dangos pa mor eithriadol yw maint y ddarpariaeth gofal iechyd ledled Cymru. Mae pob rhif yn cynrychioli unigolyn sy’n cael gofal, ac mae’n dangos hefyd y rôl hanfodol y mae’r GIG yn ei chwarae yn gofalu am bawb pryd a lle bynnag y bo angen y gofal hwnnw arnyn nhw.”