Entrepreneuriaid benywaidd yn cael eu hyrwyddo mewn ymgyrch dros dwf economaidd
Female entrepreneurs championed in drive for economic growth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i gefnogi entrepreneuriaid benywaidd fel sbardun allweddol twf economaidd yn ystod dathliadau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, yr addewid wrth ymweld â Deploy Tech, cwmni gweithgynhyrchu arloesol o Gymru a sefydlwyd ar y cyd gan yr entrepreneur benywaidd arobryn, Beren Kayali.
Gwnaeth y cwmni o Bontyclun, sy'n cynhyrchu tanciau storio dŵr cludadwy arloesol a ddefnyddir i amddiffyn seilwaith critigol/wrthsefyll yr hinsawdd, amddiffyn a chymorth mewn trychinebau, ddangos arloesedd a llwyddiant busnesau sy'n cael eu harwain gan fenywod yng Nghymru.
Mae wedi derbyn cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i ehangu i farchnadoedd rhyngwladol, gan gynnwys India ac Ewrop.
Ar ei hymweliad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae entrepreneuriaid benywaidd yn cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant economaidd Cymru, gan ddod â safbwyntiau amrywiol ac atebion arloesol. O fusnesau technoleg newydd i fentrau cymdeithasol, mae arweinwyr busnes benywaidd yn llunio dyfodol ein heconomi.
"Mae Deploy Tech yn dangos yn union sut mae busnesau Cymru yn darparu atebion i heriau byd-eang tra'n creu swyddi o ansawdd uchel yma yng Nghymru ac mae'n enghraifft berffaith o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cefnogi menywod talentog i gyrraedd eu potensial llawn mewn busnes."
Dywedodd Beren Kayali:
"Dydy menywod ddim yn gwota i'w lenwi, doedden ni erioed. Rydyn ni'n wyddonwyr, peirianwyr, cyfreithwyr, athrawon, meddygon – popeth posibl – yn llawn angerdd ac uchelgais. Rydyn ni'n bobl sydd â gyrfaoedd sydd wedi wynebu rhwystrau di-ri, methiannau, a nosweithiau di-gwsg — ond fe wnaethon ni ddal ati a pharhau i fynd."
Yn dilyn yr ymweliad, ymunodd Beren Kayali ac arweinwyr busnes benywaidd llwyddiannus ac arloesol eraill o bob rhan o Gymru ar gyfer bwrdd crwn a gynhaliwyd gan Ysgrifennydd yr Economi.
Daeth y digwyddiad ag entrepreneuriaid ynghyd sydd wedi elwa o gymorth Llywodraeth Cymru drwy Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru a Cymru Greadigol i drafod blaenoriaethau gan gynnwys datblygu sgiliau a chyfleoedd buddsoddi.
Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Rydym am helpu i sicrhau y gall entrepreneuriaid benywaidd chwalu rhwystrau a chael mynediad at gymorth wedi'i dargedu wrth i ni adeiladu Cymru decach, fwy ffyniannus lle gall talent ac arloesedd o bob rhywedd ffynnu."