Strategaeth yn ceisio helpu pobl sy'n hunan-niweidio ac yn profi teimladau hunanladdol
Strategy aims to support people who self-harm and have thoughts of suicide
Bydd annog pobl i ofyn am gymorth pan fyddant yn hunan-niweidio neu'n profi teimladau hunanladdol yn helpu i achub bywydau.
Heddiw, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, fod Cymru yn benderfynol o gael gwared â'r stigma sydd ynghlwm wrth siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio a cheisio cael cymorth ar eu cyfer.
Dywedodd hefyd y bydd strategaeth newydd 10 mlynedd o hyd i Gymru ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio, a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill, yn gwella'r ffordd o gael gafael ar wasanaethau cymorth.
Yn y Gynhadledd Genedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yng Ngwesty'r Mercure yng Nghaerdydd, dywedodd Sarah Murphy:
"Mae nifer o bobl yn gyndyn o siarad am eu heriau rhag ofn iddyn nhw gael eu beirniadu a'u labelu, neu oherwydd eu bod yn poeni am ofidio aelod o'r teulu neu ffrind.
"Mae gennym ni lawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i'r rhai sydd eu hangen. Ond os nad ydyn ni'n cael gwared â'r rhwystr cyntaf hwnnw i gael gafael ar gymorth, os nad ydyn ni'n deall hynny nac yn helpu pobl i siarad heb fod ag ofn cael eu stigmateiddio a'u barnu, fe fydd hi'n anodd sicrhau llwyddiant am byth."
Bydd y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwedio newydd yn amlinellu sut i wella gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl sydd eu hangen.
Dywedodd y Gweinidog:
"Drwy'r strategaeth hon, y nod yw canolbwyntio'n barhaus ar atal ac ymyrryd yn gynt.
"Dim ond drwy weithio'n ddi-dor ar draws gwasanaethau cymdeithasol, cymorth lles, y sector iechyd a'r system cyfiawnder troseddol y gallwn ni ymateb yn gynt, ac yn dosturiol, i atal achosion rhag arwain at sefyllfaoedd o argyfwng."
Yn rhan o'r amcanion a amlinellir yn y strategaeth, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi gwasanaeth cynghori cenedlaethol sy'n ceisio helpu pawb sy'n cael eu heffeithio gan hunanladdiad, yn ogystal â chanllawiau newydd ar gyfer asiantaethau a sefydliadau.