
Newid ymateb ambiwlansys i ganolbwyntio ar achub mwy o fywydau
Changes to ambulance response to focus on saving more lives
Bydd newidiadau i wella sut mae ambiwlansys yn ymateb i alwadau brys 999 yn helpu i achub mwy o fywydau a gwella canlyniadau pobl.
Ymysg y newidiadau y mae cyflwyno categori porffor newydd ar gyfer ymateb i ataliad y galon ac ataliad anadlol lle mae bywyd yn y fantol.
Maent yn cael eu gwneud mewn ymateb i argymhelliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a ddaeth i'r casgliad nad yw'r targedau presennol yn briodol nac yn addas i'r diben bellach. Yn ôl adolygiad dilynol, nid oes tystiolaeth bod y model ymateb presennol yn cefnogi canlyniadau gwell.
Cyflwynwyd y targed wyth munud ar gyfer ymateb ambiwlansys yn 1974 gan Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol y Deyrnas Unedig.
Mae canllawiau perfformiad presennol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn canolbwyntio ar gategori eang o alwadau coch ac yn mesur llwyddiant o ran yr amser y mae'n ei gymryd i ambiwlans ymateb i alwad 999 – nid ar ganlyniad terfynol yr unigolyn.
Os bydd ambiwlans yn cyrraedd ar ôl wyth munud a'r unigolyn yn goroesi, caiff hyn ei ystyried yn fethiant, ond os yw'r ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud a'r unigolyn yn marw, ystyrir bod hynny wedi cyrraedd y targed.
Bydd y newidiadau i'r targedau ymateb yn canolbwyntio ar ganlyniadau, yn enwedig i bobl sydd mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol. Dyma ffordd o weithredu sydd eisoes yn cael ei defnyddio'n llwyddiannus yn Iwerddon, yr Alban ac Awstralia lle mae cyfraddau goroesi a chanlyniadau wedi gwella o ganlyniad.
Bydd dau gategori ymateb newydd – categori porffor newydd ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol a chategori brys coch ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae person mewn perygl sylweddol o gael ataliad y galon neu ataliol anadlol os nad yw'n cael ymateb cyflym.
Mae disgwyl i ambiwlansys ymateb i alwadau 999 yn y ddau gategori o fewn chwech i wyth munud ar gyfartaledd.
Mae ataliad y galon yn digwydd pan fydd y galon yn annisgwyl yn stopio pwmpio gwaed o amgylch y corff. Ataliad anadlol yw pan fydd rhywun wedi stopio anadlu. Os na chaiff ei drin, gall hyn arwain yn gyflym at ataliad y galon.
Nod y drefn newydd yw gwella cyfraddau goroesi ar gyfer ataliad y galon sy'n digwydd y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn llai na 5%.
Ar gyfer galwadau categori porffor, y prif ddull mesur fydd canran y bobl y mae eu curiad calon yn cael ei adfer ar ôl cyfnod o ataliad y galon a'i gynnal wedyn nes cyrraedd yr ysbyty. Y disgwyl yw y bydd hyn yn cynyddu'n barhaus dros amser.
Cofnodir hefyd unrhyw gamau amserol sydd wedi gwella canlyniadau, megis yr amser cyfartalog y mae'n ei gymryd i gael CPR a diffibrilio gan berson cyffredin sydd yn y fan a'r lle ar ôl ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Rydyn ni eisiau achub mwy o fywydau a gwella'r siawns y bydd pobl yn goroesi ataliad y galon yng Nghymru.
"Mae'r system bresennol yn trin rhywun sy'n cael ataliad y galon yr un fath â rhywun ag anawsterau anadlu cyffredinol sy'n aml yn gallu cael eu trin yn ddiogel gartref. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod clinigwyr ambiwlans yn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf, gan sicrhau bod pawb yn cael y gofal cywir yn ôl eu hanghenion clinigol."
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw am newid y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur perfformiad y gwasanaeth ambiwlans.
"Ers 1974, mae ein gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei fesur yn ôl yr amser mae'n ei gymryd i gyrraedd galwadau brys."Mae gwasanaeth ambiwlans heddiw yn darparu gofal llawer mwy soffistigedig, felly mae symud y ffocws i faint o bobl sydd, oherwydd ein hymyriadau, yn goroesi argyfwng lle mae bywyd yn y fantol, yn hytrach na sawl munud mae'n ei gymryd inni gyrraedd yno, yn gam pwysig i adlewyrchu hynny.
"Yn y cyfamser, rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i wella canlyniadau cleifion, ac yn benodol, i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru.
"I wneud hynny, byddwn yn cydweithio hyd yn oed yn agosach ag Achub Bywyd Cymru i wella ymwybyddiaeth o CPR a diffibrilio cynnar, ac yn gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud orau, sef achub bywydau."
Mae Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwneud newidiadau i'w model ymateb, gan gynnwys ychwanegu 26 llywiwr clinigol newydd a fydd yn sgrinio galwadau 999 i sicrhau eu bod yn cael yr ymateb cyflymaf posibl fel y gallant gael y gofal iawn, yn y lle iawn, bob tro.
Yn ogystal, bydd cynllun gweithredu i wella'r broses o drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans i'r ysbyty yn genedlaethol yn cael ei gyflwyno i gynyddu faint o ambiwlansys sydd ar gael.
Bydd y system newydd yn cael ei threialu am flwyddyn o fis Gorffennaf 2025 ymlaen. Os caiff werthusiad llwyddiannus, bydd yn cael ei rhoi ar waith yn barhaol o fis Awst 2026 ymlaen.