Newyddion
Canfuwyd 3176 eitem, yn dangos tudalen 5 o 265

Cynllun gwaith ieuenctid yn hybu presenoldeb mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent
Mae partneriaeth rhwng darpariaeth gwaith ieuenctid ac ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent yn cymryd camau cadarnhaol i wella presenoldeb disgyblion yn yr ysgol.

200 o weithwyr gofal iechyd i ymuno â GIG Cymru
Bydd 200 yn rhagor o nyrsys a meddygon o Kerala yn India yn cael eu recriwtio i ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Twf economaidd ar frig yr agenda wrth i Weinidogion Cyllid y DU gwrdd yng Nghaerdydd
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at groesawu ei gymheiriaid o wledydd eraill y DU i Gaerdydd heddiw.

Dyfodol disglair i bêl-droed menywod yng Nghymru diolch i gyllid o £1 miliwn
Mae cronfa gymorth gwerth £1 miliwn wedi cael ei lansio cyn i Dîm Pêl-droed Menywod Cymru gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ewrop am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Yr Ysgrifennydd Iechyd yn chwifio'r faner dros Gymru yn India
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles yn India yr wythnos hon i ailgadarnhau a chryfhau'r cysylltiadau ym maes gofal iechyd rhwng Cymru a'r wlad.

Eco-Ysgol o'r haen uchaf yn helpu natur i ffynnu
Mae ysgol yng Ngheredigion wedi cael ei chydnabod gan y Dirprwy Brif Weinidog am y camau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo trwydded brechlynnau y Tafod Glas at ddefnydd gwirfoddol
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i drwyddedu tri brechlyn y Tafod Glas (BTV-3) i'w defnyddio mewn argyfyngau ledled Cymru.

Y Gweinidog yn dweud bod gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid i bobl sy’n ymrafael ag anhwylderau bwyta yn ‘gam enfawr ymlaen’
Mae Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, wedi dweud bod gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid i bobl sydd ag anhwylderau bwyta yn gam enfawr ymlaen.

Parth Buddsoddi Gogledd Ddwyrain Cymru gwerth £1bn yn gwneud cynnydd sylweddol
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar Barth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint, wrth i'r busnes FI Real Estate Management (FIREM) fuddsoddi mewn twf.

Cadarnhau cynnydd sylweddol mewn cyllid – y bennod nesaf i sector cyhoeddi Cymru
Bydd sector cyhoeddi Cymru yn gweld cynnydd sylweddol yng nghyllid Llywodraeth Cymru o'i gymharu â'r llynedd, gan ddod â chyllid cyffredinol y sector ar gyfer 2025 - 2026 yn ôl yn unol â lefelau 2023 - 2024.

Rhoi rhifyn Cymraeg-Ffrangeg dwyieithog o 'Y Tywysog Bach' i bob ysgol
Mae pob ysgol yng Nghymru wedi cael copi o 'Y Tywysog Bach', rhifyn dwyieithog arbennig o'r clasur Ffrangeg 'Le Petit Prince'.

Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi
* Bydd Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant ar gael i'w gyfweld yn Nhŷ Pawb, Wrecsam, o 11am d Gwener, 21 Chwefror *