English icon English

Pobl ifanc yn rhannu eu barn gyda'r Gweinidog

Young people share their views with Minister

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden wedi bod yn clywed gan bobl ifanc ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw yn ystod ymweliadau â'r Bala a'r Drenewydd.

Mewn digwyddiad preswyl gan Cymru Ifanc yn y Bala, holwyd y Gweinidog am bynciau a oedd yn amrywio o gyfleoedd i bobl ifanc, diwygio gofal cymdeithasol plant a sut y gall plant a phobl ifanc sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed wrth i'r llywodraeth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae Cymru Ifanc yn cael ei redeg gan Plant yng Nghymru a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, i alluogi Gweinidogion i ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar bolisïau, a sut maen nhw'n effeithio arnynt. Mae holl aelodau Cymru Ifanc yn cwrdd fel fforwm cenedlaethol mewn cyfarfodydd preswyl a gynhelir dair gwaith y flwyddyn.

Yn y Drenewydd, ymwelodd y Gweinidog ag un o wasanaethau llety â chymorth Llamau ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Elusen ddigartrefedd yw Llamau sy'n cefnogi'r bobl ifanc a'r menywod mwyaf agored i niwed, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys. Prif ffocws y gwasanaeth yw helpu a chefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol, fel y gallan nhw fyw mewn amgylchedd diogel.

Rhannodd y bobl ifanc y cyfarfu'r Gweinidog â nhw eu profiadau o adael gofal a dechrau byw'n annibynnol. Clywodd am y gwahaniaeth y gall llety â chymorth ei wneud i blant a phobl ifanc sy'n cymryd y cam.

Roedd ymweld â Chaffi Ieuenctid y Drenewydd yn gyfle i'r Gweinidog glywed gan aelodau Clwb Ieuenctid y Drenewydd, a phobl ifanc o grwpiau lleol, gan gynnwys aelodau o Tutti Fruttis - grŵp LHDTC+ lleol.

Mae'r ymweliadau yn rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac i gynnal yr hawl i blant a phobl ifanc gael dweud eu dweud mewn materion sy'n effeithio arnyn nhw, a rhoi ystyriaeth i'w barn.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae wedi bod yn wych clywed gan bobl ifanc ar fy ymweliadau â'r Bala a'r Drenewydd ar faterion sydd o bwys iddyn nhw, a gweld pa mor angerddol ydyn nhw amdanynt.

"Mae gwireddu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o ddiwylliant Cymru; rhan o bwy ydyn ni fel gwlad. Rydyn ni am weld Cymru yn wlad lle mae pob plentyn yn gwybod bod ganddyn nhw hawliau ac yn deall beth mae hyn yn ei olygu, a lle mae'r gefnogaeth yno iddyn nhw allu arfer yr hawliau hynny.

"Mae'r hyn sydd gan bobl ifanc i'w ddweud yn bwysig ac mae eu barn yn cyfrif."

Dywedodd Sam Austin, Prif Weithredwr Llamau: "Roedden ni'n falch o groesawu'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i'n gwasanaeth llety â chymorth ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

"Yn Llamau, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob person ifanc le diogel i fyw, a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i greu dyfodol mwy disglair. Mae'r heriau sy'n wynebu pobl ifanc ddigartref yn fwy nag erioed, ac mae cyllid cynaliadwy yn hanfodol er mwyn cadw'r gwasanaethau hanfodol hyn i fynd.

"Fe wnaethon ni groesawu'r cyfle i drafod gyda'r Gweinidog sut y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd i ddarparu cefnogaeth a fydd yn newid bywydau rhai o'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru."