
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud cynnydd o dan fesurau arbennig
Betsi Cadwaladr University Health Board making progress under special measures
Mae bwrdd iechyd y Gogledd yn gwneud cynnydd o dan fesurau arbennig ond bydd yn parhau i dderbyn y lefel uchaf o gefnogaeth.
Mae adroddiad cynnydd wedi’i gyhoeddi sy’n edrych yn ôl dros gyfnod o ddwy flynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi o dan fesurau arbennig. Yn ôl yr adroddiad, mae cynnydd wedi’i wneud mewn amryw o feysydd – gan gynnwys y diwylliant yn y bwrdd iechyd, y trefniadau arwain a llywodraethu a safonau ansawdd a diogelwch.
Ond mae rhai heriau yn parhau, yn enwedig o ran perfformiad gofal a gynlluniwyd a sicrhau mynediad amserol at ofal brys a gofal mewn argyfwng.
Mae rhai o’r arwyddion calonogol bod y bwrdd iechyd yn gwella yn cynnwys:
- Ers mis Chwefror 2023, mae dwy ran o dair yn llai o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth orthopedig
- Mae’r perfformiad o ran iechyd meddwl oedolion a phobl ifanc wedi gwella
- Mae’r nifer mwyaf yng Nghymru o ymgyngoriadau o dan y gwasanaeth fferyllwyr sy’n bresgripsiynwyr annibynnol wedi’u cynnal yn y bwrdd iechyd
- Mae cytuno wedi bod ar gontractau deintyddol newydd y GIG gwerth dros £5m
Mae cyfres o ddatblygiadau newydd wedi bod ar draws y Gogledd hefyd, gan gynnwys:
- Ysgol Feddygol Gogledd Cymru – sydd wedi agor erbyn hyn
- Y fan awdioleg gymunedol – y trefniant cyntaf o’i fath yng Nghymru
- Ysbyty Glan Clwyd – sydd wedi’i ddewis yn un o wyth safle ar draws y DU i gymryd rhan yn nhreialon newydd STEPS II sy’n edrych yn benodol ar y cyflwr Parkinson’s
- Ysbyty Abergele – lle mae technoleg realiti estynedig yn cael ei threialu gan lawfeddygon ar gyfer cynnal llawdriniaethau ar y pen-glin
- Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd – sydd wedi’i henwi fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru
Wrth siarad am y cynnydd hyd yma, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: “Hoffwn i ganmol ymrwymiad a phenderfyniad y staff i wneud gwelliannau ystyrlon i wasanaethau iechyd ar gyfer pobl y Gogledd.
“Rydw i wedi gweld enghreifftiau o’r gwaith rhagorol sy’n digwydd â'm llygaid fy hun, ond rydyn ni’n gwybod bod rhagor i’w wneud i wella profiad y staff, y cleifion a’u teuluoedd.
“Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r bwrdd iechyd i wella ac i ddarparu gofal rhagorol i bobl yn y Gogledd.”