200 o weithwyr gofal iechyd i ymuno â GIG Cymru
200 healthcare workers to join NHS Wales
Bydd 200 yn rhagor o nyrsys a meddygon o Kerala yn India yn cael eu recriwtio i ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Mae’r cyhoeddiad yn cryfhau’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Kerala y llynedd i gefnogi recriwtio moesegol o India i Gymru – cytundeb y mae pawb yn cael budd ohono.
Erbyn hyn, mae gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru fwy o staff nag ar unrhyw adeg yn ei hanes. Mae’n cyflogi bron i 97,000 o staff cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y gweithlu presennol ac i hyfforddi gweithlu’r GIG ar gyfer y dyfodol.
Drwy groesawu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o Kerala, mae’r GIG yn elwa ar gyfoeth o wybodaeth. Mae gan y gweithwyr hyn sgiliau a phrofiad i’w rhannu sy’n cyfoethogi’r system gofal iechyd.
Mae mwy na 300 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o’r dalaith yn India wedi derbyn swyddi ar draws GIG Cymru yn barod ers i’r cytundeb gael ei lofnodi ym mis Mawrth 2024.
Pan oedd ar ymweliad ag India, cafodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyfle i gyfarfod â staff oedd ar fin dod i Gymru. Diolchodd iddynt am gefnogi GIG Cymru.
Mae disgwyl i’r Nyrs Staff Teena Thomas o Karunagappally ymuno â GIG Cymru cyn hir, a dywedodd: “Ymrwymiad GIG Cymru i ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel a’i enw da am ragoriaeth mewn gofal iechyd sydd wedi ennyn fy niddordeb.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o dîm sy’n meddwl bod agwedd dosturiol, caredigrwydd a pharch mor bwysig. Mae cael y cyfle i weithio mewn amgylchedd amlddiwylliannol a chyfrannu at les y gymuned yng Nghymru wir yn rhoi boddhad. Rydw i’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau a’m harbenigedd mewn amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol.”
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd gyfarfod hefyd â Veena George, y Gweinidog dros Iechyd, a Datblygiad Menywod a Phlant, er mwyn ymrwymo o’r newydd i’r berthynas weithio rhwng Cymru a Kerala a chryfhau’r berthynas honno.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflenwi gweithlu cynaliadwy ar gyfer y GIG – gweithlu sy’n gallu ymateb i’r gofynion presennol a diwallu anghenion y dyfodol.
“Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o groesawu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o’r byd. Mae recriwtio rhyngwladol moesegol yn rhan allweddol o strategaeth y gweithlu ar gyfer sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru y sgiliau a’r bobl iawn sydd eu hangen arno.
“Rydw i’n falch y bydd 200 yn rhagor o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Kerala yn chwarae rhan bwysig i gefnogi GIG Cymru. Byddan nhw’n ymuno â’r rheini sydd wedi cael eu recriwtio i’n system gofal iechyd yn barod.
“Hoffwn i ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud, a diolch hefyd i Lywodraeth Kerala am y croeso cynnes. Rydw i’n edrych ymlaen at barhau i feithrin ein perthynas weithio gadarn.”