English icon English

Hwb benthyca o £120m i gynghorau lleol drwsio ffyrdd

Borrowing boost of £120m for local councils to fix roads

Cyn hir, bydd cynghorau lleol yn gallu cael mynediad at hyd at £120m i atgyweirio mwy o ffyrdd lleol dros y ddwy flynedd nesaf, o dan gynlluniau newydd a nodir yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2025-26.

Bydd y fenter fenthyca llywodraeth leol newydd yn darparu £10m o gyllid refeniw ychwanegol i gynghorau lleol i'w galluogi i ddatgloi £120m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gyflymu'r broses o drwsio ein ffyrdd a'n palmentydd lleol.

Bydd y cynllun yn cael ei ddylunio mewn partneriaeth agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a bydd ar agor i geisiadau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu helpu cynghorau lleol i gael mynediad at y cyllid angenrheidiol hwn i'w galluogi i gyflymu rhywfaint o'r gwaith atgyweirio y mae mawr ei angen ar ffyrdd lleol ledled Cymru.

"Mae cysylltu ein cymunedau trwy drwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol i ni a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wella gwydnwch ffyrdd Cymru yn y dyfodol."

Wrth siarad yn ystod ymweliad i weld prosiect ym Merthyr Tudful a fydd yn elwa ar y cyllid, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:

"Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn tystio i'n hymrwymiad i wella seilwaith lleol ledled Cymru. Mae'r ffyrdd a'r palmentydd sy'n cysylltu ein cymunedau yn hanfodol, a bydd yr hwb hwn o £120m yn helpu Awdurdodau Lleol i fynd i'r afael ag atgyweiriadau yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

"Rwyf wedi gweld drosof fy hun heddiw sut y bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol. Trwy gydweithio â'n Hawdurdodau Lleol partner, rydym yn cymryd camau pendant i wella cyflwr ein ffyrdd er budd pawb sy'n eu defnyddio."

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a'r llefarydd ar drafnidiaeth:

"Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y fenter hon dros y misoedd diwethaf ac rwy'n falch iawn o'i gweld yn dwyn ffrwyth. Roedd menter flaenorol rhwng 2012 a 2014 yn hynod lwyddiannus ac yn dangos yr hyn y gall cynghorau ei gyflawni pan fydd y lefel gywir o gyllid ar gael.

"Bydd y cyllid hwn yn galluogi gwelliannau sylweddol i ffyrdd, palmentydd a phontydd ledled Cymru."

Fis diwethaf fe wnaeth Mr Skates hefyd gyhoeddi hwb ariannol o £25m i adnewyddu 100km ychwanegol o brif ffyrdd Cymru ac atal tua 30,000 o dyllau a diffygion ffyrdd yn y flwyddyn ariannol newydd.