English icon English
FM St David's Day message 2025-2

Neges Dydd Gŵyl Dewi gan Prif Weinidog Eluned Morgan

First Minister Eluned Morgan's St David's Day message

Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi gyd.

Heddiw mae pobl ar draws Cymru a gweddill y byd yn dod at ei gilydd ac yn dathlu Cymru a Chymreictod.

Ar ein diwrnod cenedlaethol rydym yn hoffi gwneud y pethau bychain, yn union fel roedd Dewi Sant yn annog ni i gwneud.

Oherwydd gall y mân weithredoedd, y pethau bychain, gyda’i gilydd wneud gwahaniaeth mawr.

Mae'r ymdeimlad hwn o ofalu am eraill, a gwneud pethau i helpu eraill, yn rhan o pwy ydym ni fel cenedl.

Mae ein cariad at ganu a chwaraeon hefyd yn bwysig i ni.

Rydym yn genedl oddefgar a blaengar – gallwn fod yn falch o hynny.

Mae gyda ni gymunedau clos ac ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol a thegwch.

Ond mae Cymru hefyd yn gartref i fusnesau byd-eang. Mae’n wlad lle gall arloeswyr, crewyr a syniadau gwych ffynnu.

Mae ein hanes cyfoethog, ein diwylliant a'n hiaith fywiog fod yr un mor unigryw â'n mynyddoedd epig, ein arfordir dramatig a’n dinasoedd ffyniannus.

Dwi wedi addo byddwn ni’n parhau â'n gwaith i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach.

Lle maep pawb yn cael ei gwerthfawrogi, a neb yn cael ei adael ar ôl.

A lle gall ein pobl ifanc gyflawni pob uchelgais, heb feddwl bod angen mynd i ffwrdd i gael dyfodol llwyddiannus.

Dyma’r gwerthoedd a ddysgwyd i ni gan Dewi Sant ei hun.

Felly, ble bynnag rydych chi'n dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, helpwch ni i droi'r byd yn Gymru, a beth am i ni wneud rhywbeth bach i wella diwrnod rhywun arall.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi gyd – mwynhewch!

Nodiadau i olygyddion

Gall lawrlwytho'r fideo yma: SDD - Broadcast Media - Dropbox