Cefnogi degau o filoedd o bobl ifanc yng Nghymru i sicrhau eu dyfodol
Tens of thousands of young people in Wales supported to secure their future
Mae dros 48,500 o bobl ifanc ledled Cymru wedi cael cymorth drwy raglenni cyflogadwyedd a sgiliau ers lansio un o brif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru.
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn helpu pobl ifanc 16–24 oed drwy ddod ag amrywiaeth o raglenni at ei gilydd i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg iawn – p'un a ydynt yn edrych i wella eu sgiliau, dechrau busnes, dod o hyd i waith neu barhau mewn addysg.
Wrth siarad yn y Senedd heddiw, bydd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, yn dweud nad yw'r rhaglen yn darparu ar gyfer pobl ifanc heddiw yn unig, ond ei bod hefyd yn ysbrydoli pobl ifanc yfory ac yn gosod y sylfeini ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Ymhlith y rhai sydd wedi elwa ar y rhaglen ers ei lansio ym mis Tachwedd 2021 mae cyn-ddisgybl ysgol swil sydd bellach ar y trywydd iawn i wireddu ei breuddwyd o ddod yn athrawes.
Trawsnewidiwyd rhagolygon gyrfa Ebony Riordan, 19 oed o Dreffynnon, wrth iddi ddilyn llwybr dysgu seiliedig ar waith ar ôl cwblhau ei haroliadau TGAU.
Trwy un o'r ffrydiau cymorth a gynigir o dan y Warant i Bobl Ifanc, sef Twf Swyddi Cymru+, cafodd brofiad gwerthfawr fel cynorthwyydd addysgu yn ei chyn-ysgol, Ysgol Maesglas, tra'n ennill cymwysterau addysgu.
Gan ddechrau gyda chymwysterau Hyfforddi Chwaraeon, aeth Ebony ymlaen i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen a phrentisiaeth lefel uwch mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu.
Arweiniodd ei llwyddiant yn y rolau hyn, gan gynnwys cyfrannu at gynllunio gwersi a chefnogi plant gyda phynciau craidd, iddi sicrhau lle ym Mhrifysgol Bangor lle mae hi bellach ym mlwyddyn gyntaf ei chwrs gradd.
Wrth feddwl am ei phrofiad, dywedodd Ebony:
"Roeddwn i wastad eisiau gweithio mewn ysgol, ond doedd gen i ddim profiad blaenorol, felly cefais brofiad mewn swydd yn syth. Roeddwn i'n ei chael hi'n llawer gwell y ffordd honno yn hytrach na dilyn y llwybr academaidd yn gyntaf, gan ei fod yn caniatáu i mi weld a oeddwn i'n hoffi'r gwaith cyn gwneud ymrwymiad gyrfa.
"Byddwn i'n dweud wrth unrhyw un sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa debyg i mi, y dylent ymchwilio ac ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael a dod o hyd i'r hyn sydd orau i chi. Roeddwn i'n lwcus bod fy mam wedi dod o hyd i'r cyfle i mi, felly peidiwch â bod ofn gofyn am help."
Ychwanegodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau:
"Mae taith Ebony yn dangos grym hyfforddiant galwedigaethol. Fel rhywun a ddechreuodd ei yrfa fel prentis, rwy'n gwybod o lygad y ffynnon am yr effaith drawsnewidiol sy'n deillio o gael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.
"Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn sicrhau canlyniadau go iawn i bobl ifanc ledled Cymru, gan eu helpu i oresgyn yr heriau yn dilyn y pandemig a phwysau costau byw.
"Rydym am sicrhau bod o leiaf 90% o bobl ifanc 16–24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050, felly rwy'n falch iawn ein bod yn gweld pobl ifanc yn trawsnewid eu bywydau ac yn dilyn gyrfaoedd cyffrous."