English icon English
Ysgol Rhiw Syr Dafydd 1225-2

Cymorth i fynd i'r afael â thlodi plant

Support to tackle child poverty

Mae cynnig prydau ysgol am ddim, gofal plant a chymorth brys yn rhan o lwybr gweithredu parhaus i fynd i'r afael â chostau cynyddol a lleihau tlodi.

Mae'r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd wedi ehangu i bron i 174,000 o ddisgyblion ychwanegol, a gweinwyd bron i 55 miliwn o brydau ers mis Medi 2022. Ynghyd â darpariaeth bwrpasol mewn ysgolion uwchradd, gall mwy na dwy ran o dair o ddysgwyr gael pryd ysgol am ddim bob dydd bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu hefyd dros 100 miliwn o frecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd dros y degawd diwethaf.

Ddoe, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ag Ysgol Rhiw Syr Dafydd yn y Coed-duon. Dywedodd y Pennaeth, Mr Craig George: "Fel ysgol, rydyn ni'n gweld bob dydd y gwahaniaeth y mae prydau ysgol am ddim i'r holl blant a chlybiau brecwast yn ei wneud i'n plant. Pan fydd plentyn yn dechrau'r diwrnod wedi'i fwydo, heb ei gynhyrfu ac yn barod i ddysgu, mae popeth yn newid. Mae'r darpariaethau syml hyn yn codi pwysau oddi ar deuluoedd sy'n wynebu caledi go iawn, ac yn rhoi i bob plentyn, beth bynnag eu cefndir, yr un cychwyn urddasol, iach. Rydyn ni'n falch o gefnogi ein cymuned yn y modd hwn, ac rydyn ni'n ddiolchgar dros ben am unrhyw bolisi sy'n ein helpu i roi'r tegwch, y sefydlogrwydd a'r cyfle i'n plant y maen nhw'n eu haeddu."

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024, ochr yn ochr â'r Fframwaith Monitro Tlodi Plant ac adroddiad Profiad Bywyd sy'n tynnu sylw at effaith ei pholisïau. Dywedodd un rhiant: “Mae prydau ysgol yn ddefnyddiol iawn; maen nhw'n lleihau straen a phryderon ariannol.”

Rhwng 2022 a 2026, bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £7 biliwn mewn mesurau sy'n cefnogi teuluoedd, drwy raglenni i leddfu pwysau ariannol, helpu i sicrhau cymaint o incwm â phosibl a gwneud y mwyaf ohono, a helpu i gadw mwy o arian yn eu pocedi. Cafwyd gafael ar fwy na £200 miliwn mewn budd-daliadau nas hawliwyd. Mae dros 200,000 o aelwydydd wedi derbyn cymorth tanwydd brys, ac mae £250 miliwn yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn i helpu 260,000 o aelwydydd gyda biliau'r dreth gyngor.

Drwy Gynnig Gofal Plant Cymru, gall rhieni plant tair a phedair oed fanteisio ar hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu, i gefnogi rhieni i weithio neu astudio. Mae Dechrau'n Deg hefyd yn cael ei ehangu fel y gall mwy o blant ffynnu. O fis Chwefror y flwyddyn nesaf, bydd Bwndeli Babi, sy'n cynnwys eitemau hanfodol a gwybodaeth ar gyfer rhieni newydd, yn cael eu cyflwyno, gan dargedu aelwydydd yn ardaloedd Dechrau'n Deg, i helpu i leihau pwysau ariannol ar deuluoedd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Teuluoedd sy'n agored i niwed sydd wedi'u taro galetaf yn sgil y pandemig, yr argyfwng costau byw, a mwy na degawd o gyni, a phlant a phobl ifanc sydd wedi'u heffeithio fwyaf.

"Rydyn ni wedi gweithredu i amddiffyn teuluoedd a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. Dangosodd fy ymweliad ag Ysgol Rhiw Syr Dafydd imi y gwahaniaeth gwirioneddol y mae ein buddsoddiad yn ei wneud.

"Er ein bod ni'n defnyddio pob opsiwn sydd ar gael inni yng Nghymru, mae angen i ddwy lywodraeth weithio gyda'i gilydd i roi terfyn ar dlodi plant. Dw i'n croesawu'n gryf y cam a gymerwyd gan y Canghellor i gael gwared ar y Cap Dau Blentyn, a fydd, yn ôl Llywodraeth y DU, yn rhyddhad i 69,000 o blant yng Nghymru y gwrthodwyd cymorth ariannol iddyn nhw ers 2017, ac a allai leihau tlodi plant cymharol yng Nghymru 3-4%."

Nodiadau i olygyddion

Yn y llun: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn Ysgol Rhiw Syr Dafydd 1 Rhagfyr 2025.