English icon English

Amserlen trenau well yn dechrau yng Nghymru heddiw

Improved train timetable starts in Wales today

Mae amserlen trenau well ledled Cymru yn dechrau heddiw.

Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ym mis Rhagfyr ar rwydwaith Cymru a'r Gororau yn cynnig mwy o wasanaethau, yn cryfhau cysylltiadau ac yn helpu i roi hwb i'r economi.

Mae'r amserlen newydd yn cynnwys gwasanaeth ychwanegol newydd bob awr rhwng Caer a Wrecsam, trên ychwanegol ym mhob cyfeiriad bob dydd ar linell Calon Cymru rhwng Abertawe a'r Amwythig, tri thrên olaf hwyrach o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful a gwasanaeth newydd bob awr ar ddydd Sul ar linell Coryton.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae cysylltedd rheilffyrdd yn hollol hanfodol wrth yrru ffyniant.

"Bydd y newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwsmeriaid, a fydd yn elwa o fwy o wasanaethau a mwy o gysylltedd. Mae hyn wedi'i wneud yn bosibl gan ein buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

"Ymhlith y newidiadau byddwn yn gweld dyblu trenau rhwng Wrecsam a Chaer a gwasanaeth hwyrach o'r brifddinas i gymunedau'r cymoedd. 

"Yn Ne Cymru, bydd pobl yn dal i allu elwa o brisiau tecach a symlach drwy wasanaeth Talu wrth Fynd (PAYG) TrC ar y teithiau hyn. Ac wrth gwrs gyda dechrau cyflwyno Talu wrth Fynd yng Ngogledd Cymru yn dod yn fuan, bydd mwy a mwy o bobl yn cael y cyfle i elwa o brisiau symlach." 

I weld y newidiadau o ddydd Sul 14 Rhagfyr ewch i - Amserlenni trenau Cymru a’r DU | Amseroedd trenau | TrC.