Buddsoddiad gwerth £8.94 miliwn i drawsnewid gwasanaethau diwylliannol ledled Cymru
£8.94million investment to transform cultural services across Wales
Mae buddsoddiad mawr gwerth dros £8.94 miliwn i gryfhau amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol eiconig Cymru wedi'i gyhoeddi heddiw [ddydd Llun 22 Rhagfyr] i dyfu a chryfhau sylfeini diwylliannol “hanfodol” y genedl.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynyddu ei gwariant ar gyfer y sector diwylliant ehangach 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar £11 miliwn mewn grantiau cyfalaf sydd eisoes wedi'u dyfarnu dros y chwe mis diwethaf ers lansio ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, ochr yn ochr â mentrau wedi'u targedu sy'n cefnogi mynediad pobl ifanc at brofiadau diwylliannol.
Mae'r buddsoddiad yn cynnwys:
- £1.9 miliwn ar gyfer 15 prosiect a fydd yn helpu i feithrin capasiti mewn amgueddfeydd, archifau a gwasanaethau llyfrgelloedd lleol drwy arbenigedd ychwanegol gan gynnwys curaduron, llyfrgellwyr ac archifwyr. Bydd prosiectau sy'n derbyn cyllid yn sicrhau gwelliannau i fynediad i'r cyhoedd, digideiddio casgliadau hanes lleol a defnyddio technoleg ac allgymorth i ddyfnhau ymgysylltiad â'r gymuned.
- Bron i £2.2 miliwn ar gyfer Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n cefnogi gwelliannau cyfalaf i adeiladau, lleoliadau a chyfarpar celfyddydol. Mae'r gronfa eisoes wedi cefnogi 40 o brosiectau gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr y Torch.
- £767,000 i Opera Cenedlaethol Cymru, drwy Cyngor Celfyddydau Cymru, i gefnogi cynaliadwyedd ariannol y sefydliad hwn o arwyddocâd cenedlaethol a galluogi gwireddu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chadarnhaol.
- £250,000 ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i gefnogi ystod o brosiectau i wella cynaliadwyedd a phrofiad ymwelwyr, gan gynnwys cymorth i adfer y Tŷ Gwydr Mawr a'i gasgliadau.
- £2 filiwn ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - yr unig ddarparwr addysg uwch yng Nghymru sy'n darparu hyfforddiant celfyddydau perfformio conservatoire - er mwyn diogelu ei ddyfodol a sicrhau bod darpariaeth cerddoriaeth a drama o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar berfformiad yn parhau.
- £1.87miliwn ar gyfer ailddatblygu Theatr Clwyd i gefnogi gwaith darganfod asbestos a dodrefn a chyfarpar o safon (yn ddarostyngedig i amodau). Mae hyn yn mynd â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect i £25.37 miliwn ers 2022-23.
Mae'r cyhoeddiadau heddiw yn dilyn £5 miliwn o gyllid a ymrwymwyd yr wythnos diwethaf [ddydd Gwener 19 Rhagfyr] ar gyfer cyfleusterau a phrosiectau chwaraeon, megis pwll nofio'r Urdd yn Llangrannog a chymorth sylweddol i bêl-droed a golff menywod.
Cyhoeddwyd £2.5 miliwn pellach ar gyfer y sector creadigol hefyd yn gynharach y mis hwn, gan adeiladu ar Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a oedd yn canolbwyntio ar y sector creadigol a gynhaliwyd ar yr un pryd.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ac mae’n ailddatgan fy nghred nad yw ein hamgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ychwanegiadau dewisol ond yn sylfeini diwylliannol angenrheidiol. Bydd y prosiectau hyn nid yn unig yn gwella mynediad i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, ond byddant yn meithrin cydweithredu, yn gwarchod hanes lleol ac yn cryfhau ymgysylltu, dysgu a chyfranogiad ar draws cymunedau.
“Bydd y buddsoddiad hwn gwerth £8.94 miliwn yn darparu capasiti hanfodol i sector sydd wedi bod yn glir am y pwysau y mae'n eu hwynebu, gan roi'r cymorth angenrheidiol i gyflawni ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau a rennir yn y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant."
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru,
"Rydym yn croesawu buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru yn y celfyddydau, gan gynnwys rhagor o gyllid cyfalaf a chefnogaeth ychwanegol i Opera Cenedlaethol Cymru a'r datblygiad cyffrous yn Theatr Clwyd. Bydd yr arian yma’n sicr o gael effaith bositif a hirdymor ar gymunedau ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r sector i sicrhau bod profiadau celfyddydol ysbrydoledig o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru."
Bydd y cymorth i amgueddfeydd, archifau a gwasanaethau llyfrgelloedd lleol hefyd yn cynnwys £900,000 pellach o gyllid grant, sydd ar gael i'w ddyrannu tan hydref 2026.