Clybiau pêl-droed yn cael eu hannog i fanteisio ar gwrs iechyd meddwl
Football clubs urged to access mental health course
Mae'r Gweinidog Chwaraeon yn annog clybiau pêl-droed ledled Cymru i gymryd cwrs hyfforddi iechyd meddwl i gefnogi timau, hyfforddwyr a chwaraewyr yn well.
Gall clybiau pêl-droed ledled Cymru fanteisio ar gwrs ar-lein a ddarperir gan Mind Cymru a UK Coaching i gynyddu eu hymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Mae tua 200 o glybiau wedi cwblhau'r cwrs e-ddysgu, ond mae digon o leoedd ar gael o hyd.
Mae'r cwrs yn arfogi hyfforddwyr gyda gwybodaeth a hyder i ddeall a chefnogi pobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl. Mae'n helpu i greu naws gadarnhaol lle gall pawb fwynhau bod yn actif mewn amgylchedd cefnogol.
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant:
"O brofiad dy hun gyda â chlybiau pêl-droed yng Nglannau Dyfrdwy, rwy'n gwybod eu bod nhw wrth galon ein cymunedau a hyfforddwyr yn aml yw'r cyntaf i sylwi pan fydd rhywun yn cael trafferth. Mae iechyd meddwl yn bwysig bob dydd, ond rwy'n gwybod, wrth i ni agosáu at y Nadolig, gall y cyfnod hwn fod yn arbennig o heriol i rai pobl.
"Gall y sgiliau ymarferol y mae hyfforddwyr yn eu hennill o'r cwrs hwn i gefnogi eu chwaraewyr a'u timau achub bywydau. Rwy'n falch bod tua 200 o glybiau eisoes wedi manteisio ar yr adnodd gwerthfawr hwn, ond rwy'n annog clybiau ledled Cymru i fanteisio ar y cyfle oherwydd gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
"Mae clybiau pêl-droed yn fannau diogel yn ein cymunedau lle mae pobl o bob oed yn dod at ei gilydd. Pan fydd hyfforddwyr yn deall iechyd meddwl ac yn teimlo'n hyderus yn cael y sgyrsiau hynny, mae'n creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel i rannu pryderon.
"Mae'r hyfforddiant hwn yn gam pwysig i chwalu stigma a sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu heriau iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Rwy'n annog pob clwb i fanteisio ar y cyfle hwn."
Mae Chwaraeon Cymru yn datblygu dull ataliol hirdymor sy'n mynd i'r afael â stigma a ffactorau risg wrth greu amgylcheddau sy'n cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol ar draws y sector chwaraeon cyfan.
Mae'r fenter yn rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau bod clybiau chwaraeon yn gallu darparu mannau cefnogol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.
Dylai clybiau pêl-droed sydd â diddordeb mewn cael mynediad at yr hyfforddiant gysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gael manylion am sut i gofrestru ar gyfer y cwrs e-ddysgu am ddim.
Nodiadau i olygyddion
- More information on the training is available on the UK Coaching website
- Anyone needing support with mental health can ring the 24-hour CALL Helpline: 0800 132 737
- For urgent support please call the NHS on 111 and press 2
- For mental health information and support in Welsh and English, visit Information and support
- The anonymous Samaritans helpline is available 24/7 on 116 123 and their Welsh helpline is available everyday 7pm-11pm on 0808 164 0123
- Anyone who is affected by suicide, the National Advisory and Liaison Service Cymru offer free and confidential support to people in Wales: 08000 487742