English icon English

Penodi Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru

New Chief Medical Officer for Wales appointed

Mae'r Athro Isabel Oliver wedi cael ei phenodi'n Brif Swyddog Meddygol newydd Cymru.

Bydd yr Athro Oliver yn ymuno â Llywodraeth Cymru o'i rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwyddoniaeth ac Ymchwil a Phrif Swyddog Gwyddonol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).

Fel Prif Swyddog Meddygol Cymru, bydd yr Athro Oliver yn rhoi arweinyddiaeth glinigol ac yn gyfrifol am roi cyngor proffesiynol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud ag iechyd ac iechyd y cyhoedd. Bydd hi hefyd yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd ac yn arwain y proffesiwn meddygol gyda'r nod o wella ansawdd gofal iechyd a chanlyniadau i gleifion.

Dechreuodd yr Athro Oliver ei gyrfa yn gweithio ym maes meddygaeth ysbyty acíwt yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ac yn Ne Orllewin Lloegr, cyn dilyn gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd. Cyn ei rôl bresennol yn UKHSA, roedd hi'n Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Heintiau Cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE).

Mae hi hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Yr Athrofa Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, Yr Uned Ymchwil Diogelu Iechyd ar Wyddor Ymddygiad a Gwerthuso ym Mhrifysgol Bryste, ac yn athro anrhydeddus yn University College, Llundain.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Daw'r Athro Oliver â chyfoeth o brofiad i Gymru ar ôl blynyddoedd o weithio ar lefel uwch ym maes iechyd y cyhoedd yn y DU ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.

“Rwy'n falch iawn ei bod hi wedi ymuno â ni wrth i ni weithio i wella iechyd a llesiant, a hoffwn estyn croeso cynnes iddi i Gymru.”

Dywedodd yr Athro Oliver sydd, fel y Prif Swyddog Meddygol blaenorol, yn rhedwr brwd ac sydd ar fin cymryd rhan ym Marathon Casnewydd: “Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi'n Brif Swyddog Meddygol Cymru ac rwy'n gyffrous iawn i weithio gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig a'r cymunedau ar draws Cymru i greu Cymru Iachach a diogelu ein GIG.

 “Heddiw, rydym yn wynebu heriau yn sgil ein poblogaeth sy'n heneiddio, anghydraddoldebau a ffactorau byd-eang fel y newid yn yr hinsawdd. I rywun fel fi sy'n angerddol am iechyd a llesiant, mae yma gyfleoedd unigryw yng Nghymru i sicrhau gwelliannau mawr mewn iechyd y cyhoedd a gwasanaethau iechyd i bawb, diolch i bolisïau arloesol a chydweithio effeithiol rhwng sectorau. Bydd yn fraint gen i wasanaethu pobl Cymru i sicrhau cymunedau iach, gwydn a llewyrchus.”

Mae'r Athro Oliver wedi'i phenodi yn olynydd i Syr Dr Frank Atherton a fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ddiwedd y mis.