English icon English
WG positive 40mm-2 cropped-2

Datganiad gan Prif Weinidog Eluned Morgan: Teyrnged i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Statement from First Minister Eluned Morgan: Tribute to Lord Dafydd Elis-Thomas

Gyda thristwch mawr y clywais am farwolaeth fy ffrind a’m cydweithiwr annwyl, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Mae Cymru wedi colli un o'i gweision pennaf, ac mae llawer ohonom wedi colli cyfaill arbennig iawn.

Roedd Dafydd yn gawr yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn danbaid dros hyrwyddo ein cenedl, ein hiaith, a'n diwylliant. Rhwng ei rôl arloesol fel Llywydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i wasanaeth yn y ddau Dŷ yn Senedd San Steffan, helpodd i saernïo’r Gymru rydym yn ei hadnabod heddiw.

Ar lefel bersonol, bu Dafydd yn ysbrydoliaeth i mi ers fy nyddiau cynnar mewn gwleidyddiaeth. Roedd yn meddu ar allu i aros yn driw i'w egwyddorion wrth weithio'n adeiladol ar draws pleidiau. Roedd hyn yn esiampl o wasanaeth cyhoeddus gwirioneddol effeithiol. Cefais y fraint o weithio ochr yn ochr ag ef yn Nhŷ'r Arglwyddi, y Senedd a Llywodraeth Cymru, gan fod yn dyst i’w frwdfrydedd, ei ddoethineb, a'i ymrwymiad diwyro i Gymru.

Yr hyn y byddaf yn ei gofio fwyaf am Dafydd yw ei frwdfrydedd heintus dros ddiwylliant Cymru a’i ymroddiad i ddiogelu ein hiaith. Roedd yr un mor gartrefol yn trafod barddoniaeth Gymraeg ganoloesol ag yr oedd yn trafod diwygio cyfansoddiadol – un o wŷr y Dadeni oedd yn ymgorffori'r gorau o draddodiad deallusol Cymru.

Y tu hwnt i wleidyddiaeth, roedd Dafydd yn ffrind caredig a hael, bob amser yn barod i roi cyngor doeth neu air o anogaeth. Roedd ei synnwyr digrifwch direidus a'i allu i adrodd stori yn gwneud pob sgwrs yn gofiadwy.

Mae Cymru wedi colli un o'i gweision pennaf, ac rwyf innau wedi colli ffrind annwyl. Trwy roi oes o wasanaeth i Gymru, mae ein gwlad gymaint yn gyfoethocach, a bydd ei weledigaeth o Gymru falch, hyderus, yn llawn diwylliant bywiog, yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau i ddod.