English icon English

£28m i atgyweirio to ysbyty ac ailagor wardiau

£28m to repair hospital roof and reopen wards

Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, wedi cadarnhau bron i £28m ar gyfer atgyweirio’r to sydd wedi’i ddifrodi ac ailagor wardiau yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Cafodd gwasanaethau, theatrau a wardiau yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr eu hadleoli i fannau eraill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mis Hydref pan wnaeth y to 40 oed fethu.

Gwnaeth gwaith archwilio brys ddangos bod angen ailosod y to.

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i ailosod tua 10,000 metr sgwâr o’r to – gwaith sy’n cyfateb i roi to newydd ar 166 o dai teras.

Mae’r gwaith atgyweirio ar y gweill, gan olygu ei bod yn bosibl i wasanaethau hanfodol ddychwelyd i’r ysbyty. Gofal mamolaeth a gofal i fabanod sydd newydd eu geni fydd y gwasanaethau cyntaf i ddychwelyd.

Mae gwaith i godi safon y cyfleusterau trydan ac ar fesurau diogelwch tân hefyd yn cael ei wneud ar yr un pryd, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y cleifion ac ar y staff sy’n gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Mae disgwyl i’r gwaith o adnewyddu’r to a’r gwaith o godi safon y cyfleusterau gael ei gwblhau erbyn yr haf.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Rydyn ni’n darparu £27.9m i roi to newydd yn lle’r hen un sydd wedi’i ddifrodi yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

“Bydd y cyllid brys hwn yn helpu i ailagor wardiau ac yn dod â gwasanaethau hanfodol eraill yn ôl i Ben-y-bont ar Ogwr. Bydd yn sicrhau diogelwch miloedd o bobl sy’n mynd i’r ysbyty bob dydd. 

“Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar y safle. Hoffwn i ddiolch i’r bwrdd iechyd, ac i’r cleifion, y staff, a phawb sy’n ymwneud â'r prosiect enfawr hwn am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”