English icon English

Gwaith eisoes ar y gweill i drwsio tyllau wrth groesawu cyllid ychwanegol

Work already underway to fix potholes as extra funding welcomed

Mae gwaith eisoes ar y gweill ledled Cymru i drwsio tyllau a diffygion eraill ar ein ffyrdd a bydd hyn yn cael hwb gyda £25m ychwanegol a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon. 

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd ddydd Llun, sydd yn y gyllideb ddrafft, yn gweld 100km ychwanegol o'r rhwydwaith ffyrdd strategol yn cael wyneb newydd yn y flwyddyn ariannol newydd. Bydd ffyrdd sydd angen eu trwsio fwyaf yn cael eu hadnewyddu, gyda miloedd o dyllau yn cael eu llenwi.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, â'r A494 ger Yr Wyddgrug yr wythnos hon i weld peth o'r gwaith sy'n digwydd yno ar hyn o bryd.  Cafodd gyfle i weld twll yn cael ei lenwi cyn y gwaith o osod wyneb newydd.

Meddai: “Rydyn ni eisoes yn gweithio'n galed i lenwi tyllau ar y ffyrdd ac adnewyddu rhannau allweddol o'n rhwydwaith ffyrdd cyn gynted â phosibl, ond bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i gyflymu'r gwaith hwn.”

"Bydd y cyllid yn mynd tuag at adnewyddu prif ffyrdd Cymru, gan atal tua 30,000 o ddiffygion a thyllau.

"Mae wedi bod yn wych gweld y gwaith caled yma ar yr A494 a dwi'n gobeithio y bydd yr arian ychwanegol yn gwella wyneb y ffyrdd yma yng Ngogledd Cymru a ledled y wlad."